Friends of the Earth
Mae gwenyn Prydain mewn trafferth. Mae 35 o rywogaethau gwenyn y DU mewn perygl o ddiflannu, ac mae’r holl rywogaethau yn wynebu bygythiadau difrifol. Ar hyn o bryd, maen nhw ein hangen ni bron gymaint â’n bod ni eu hangen nhw.
Mae’r defnydd dwys o gemegau mewn ffermio amaethyddol yn niweidio gwenyn, ac nid y gwenyn yn unig sy’n dioddef oherwydd hyn. Heb wenyn i gadw ein planhigion a’n cnydau yn fyw, bydd ein cynhyrchiant bwyd yn lleihau’n fawr, a bydd y cynnyrch ffres rydym yn eu casglu yn mynd yn ddrud iawn, gan y bydd yn dod yn foethusrwydd prin.
Yn ffodus, mae yna lawer o ffyrdd o geisio atal ein holl rywogaethau gwenyn rhag cael eu colli. Gall camau syml fel gofyn i’ch cyngor gyflwyno cynllun gweithredu peillydd neu blannu planhigion sy’n gyfeillgar i wenyn yn eich gardd wneud gwahaniaeth mawr, a gan bwyll bach, gall ein helpu ni i wneud ein byd yn gyfeillgar i wenyn eto.