- Lawrlwytho Pamffled Cofebion yr Ardd Heddwch 2018: Saesneg / Cymraeg
- Gweld dogfennau digidol ac eitemau treftadaeth o hanes yr Ardd Heddwch ar wefan Casgliad y Werin
- Gweld lluniau o’r gorffennol a’r presennol o ddyluniadau’r Deml a’r Ardd Heddwch ar Flickr
- Gweld lluniau o archifau treftadaeth yr Ardd Heddwch a lluniau o’r Agoriad a Chladdu’r Capsiwl Amser yn 1988 ar Flickr
- Gweld lluniau o Gofebion yr Ardd Heddwch ar Flickr, Awst 2018
- Gweld lluniau o ddigwyddiad Ailgysegru’r Ardd Heddwch yn 30, Tachwedd 2018
Stori’r Ardd Heddwch
Cafodd yr Ardd Heddwch, a sefydlwyd gan Robert Davies, Ymddiriedolwr Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig – a gwirfoddolwr gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid Rhyngwladol ers y pumdegau – ei chreu gan gyfres o wersylloedd gweithio cyfnewid rhyngwladol i bobl ifanc er mwyn dathlu gwerthoedd y Deml Heddwch ac Iechyd, ac i nodi hanner canrif ers agor yr adeilad.
Roedd yr Ardd Heddwch yn rhan o weledigaeth wreiddiol yr Arglwydd David Davies ar gyfer y Deml Heddwch, ac wedi’i chysyniadu yn nyluniadau Pensaer y Deml, Syr Percy Thomas, yn 1929. Y bwriad oedd creu gardd a oedd fod yn lle o fyfyrdod yng Nghanolfan Ddinesig Parc Cathays, lle gallai’r cyhoedd fwynhau gofod hardd a oedd wedi ei neilltuo i Heddychwyr Cymru, ac wedi ei ysbrydoli ganddynt.
Fodd bynnag, pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd yn fuan ar ôl adeiladu ac agor y Deml Heddwch ei hun (yn 1938) daeth y gwaith i ben; ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd, cyfeiriwyd yr egni tuag at sefydlu’r Cenhedloedd Unedig. Bu’r ardal yn lawntiau agored hyd nes dathliadau pen-blwydd y Deml yn hanner cant, pan ymgymerodd sylfaenwyr UNA Cyfnewid â’r her o wireddu gweledigaeth yr Arglwydd Davies ar gyfer sefydlu’r Ardd Heddwch.
Bu gwirfoddolwyr rhyngwladol o bob rhan o’r byd (gan gynnwys un o Rwsia, a oedd yn dal yn y Rhyfel Oer ar y pryd) yn cloddio ac yn tirweddu’r lle, yn plannu’r coed cyntaf, ac yn gosod mosaig o amgylch polyn baner canolog a oedd wedi’i gynllunio yn seiliedig ar lawryf glas y Cenhedloedd Unedig ac wedi’i chysegru i ddelfrydau’r Cenhedloedd Unedig.
Mae tri pholyn sy’n chwifio baneri Cymru, y Cenhedloedd Unedig, ac am yn ail, y faner heddwch (enfys), a baneri ymgyrchoedd a sefydliadau Ewropeaidd a/neu ryngwladol eraill a sefydlwyd gyda’r Deml i hyrwyddo ymgysylltiad Cymru.
Agorwyd yr Ardd Heddwch yn ffurfiol ym mis Tachwedd 1988 gan Irene Chamberlain, 93 oed, a fu’n un o’r merched yn y seremoni agoriadol yn 1938, ynghyd â Richard Mears, 8 oed, o Ysgol Gynradd Cathays, sef yr aelod ieuengaf o UNA. Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw gladdu capsiwl amser o wrthrychau i’w hail-godi pan fydd y Deml Heddwch yn 100 oed yn 2038 (mae cofnod o hynny yn Archifau’r Deml).
Cofebion yr Ardd Heddwch
- Lawrlwytho Pamffled Cofebion yr Ardd Heddwch 2018: Saesneg / Cymraeg
- Gweld lluniau o Gofebion yr Ardd Heddwch ar Flickr
Mae’r Ardd Heddwch yn lle i gofio am gyfraniad pobl Cymru i heddwch a chyfiawnder cymdeithasol. Mae nifer o’r coed a’r llwyni wedi cael eu plannu i gofio am bobl, mudiadau neu ddigwyddiadau arbennig, sydd wedi’u nodi ar blaciau a chofebion, yn ogystal â cherrig cofeb, meinciau coffa a darnau o gelf. Erbyn 2018, mae bron i 50 o gofebion yn yr Ardd sy’n cofio rhai o heddychwyr mwyaf ysbrydoledig Cymru.
Rhwng 2016-18, bu gwirfoddolwyr Cymru dros Heddwch yn helpu Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru i gasglu ‘hanes cudd’ y cofebion heddwch hyn, gyda disgrifiadau ar gyfer ymwelwyr. Mae’r cofebion i heddychwyr yn cynnwys:
- Mainc Goffa WW100 i Filwyr BAME Cymru, 2018
- Carreg Goffa Hil-laddiad Armenia 1915-1923 (gweler erthygl newyddion Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru o fis Tachwedd 2007 ar ddadorchuddio’r gofeb; erthygl o 2015 ar ymgyrch Cymuned Cymru-Armenia)
- Ymgyrchwyr Gwrth-Apartheid – Bert Pearce
- Carreg y Gwrthwynebwyr Cydwybodol, a’r goeden i George M Ll Davies
- Merched Comin Greenham, a chofeb i Helen Thomas
- Bwa’r ‘Brigadau Rhyngwladol’ yn Rhyfel Cartref Sbaen (ailadeiladwyd yn 2018 gyda chymorth Clwb Rotari Cenedlaethol Caerdydd)
- Ras Heddwch Sri Chemnoy Oneness, 1997
- Cynghrair Rhyngwladol y Merched dros Heddwch a Rhyddid (WILPF)
Gyda chymorth ariannol drwy gynllun ‘Bagiau Cymorth’ Cronfa Gymunedol Tesco, a chyfranogiad gwirfoddolwyr rhyngwladol drwy UNA Cyfnewid, adnewyddodd Cymru dros Heddwch yr ardd fel rhan o’r digwyddiadau #Somme100, yn barod ar gyfer dathlu 30 mlynedd ers ei hagor yn 2018. Roedd syniadau ar gyfer gosodiadau celf newydd gan bobl ifanc ledled Cymru yn canolbwyntio ar Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, sydd bellach yn diffinio heriau datblygu’r byd ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Yn anffodus, oherwydd y newid ym mherchenogaeth y Deml dros 2016-18 (o Iechyd Cyhoeddus Cymru i Brifysgol Caerdydd), nid oedd modd parhau â’r gwaith o baratoi’r ddaear ac ailosod y mosaig; fodd bynnag, mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn chwilio am gyllidwr a fydd yn ein galluogi i ‘gwblhau’r weledigaeth’ ar gyfer gosod Mosaig Nodau Datblygu Cynaliadwy yr Ardd Heddwch a gosodiadau celf newydd dros 2019-24 (75 mlwyddiant y Cenhedloedd Unedig).
‘Gwersylloedd Heddwch’ Cyfnewid Ieuenctid Rhyngwladol
Rhwng 2015 a 2018, bu Cymru dros Heddwch, drwy weithio gydag UNA Cyfnewid, yn cefnogi tri ‘Gwersyll Heddwch’, ac yn dod â gwirfoddolwyr rhyngwladol a gwirfoddolwyr ifanc o’r de ynghyd i weithio ar yr ardd heddwch.
Tacluso’r Ardd Heddwch
Roedd y gwersyll heddwch yn haf 2015 yn canolbwyntio ar dacluso ac adnewyddu’r Ardd Heddwch, ar greu mosaigau bach newydd ar gyfer y portico yn y fynedfa, a rhannu safbwyntiau ieuenctid ar faterion heddwch heddiw.
- Gwirfoddolwyr rhyngwladol yn ysbrydoli Gardd Heddwch Cymru.
- Lluniau o Wersyll Gwaith yr Ardd Heddwch, haf 2015 a Gweithdau Mosaig.
Tyfu Straeon Heddwch
Roedd y gwersyll heddwch yn haf 2016 yn gweithio gyda merched Duon a Lleiafrifoedd Ethnig o gymuned Glan-yr-Afon i feithrin cydberthnasoedd a chasglu straeon drwy dyfu bwyd gyda’i gilydd, er mwyn creu cyfres o straeon digidol – sydd wedi’u cynnwys ar y blog ‘Tyfu Straeon Heddwch’.
- Lluniau o’r gwersyll heddwch cyfnewid ieuenctid Tyfu Straeon Heddwch, Awst 2016
Ymatebion Ieuenctid i Neges Heddwch ac Ewyllys Da
Bu Gwersyll Heddwch haf 2017-18 yn Aberystwyth yn gweithio gyda’r Urdd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru i archwilio a digideiddio ymatebion i Neges Heddwch ac Ewyllys Da Ieuenctid Cymru a dderbyniwyd gan fudiadau ieuenctid ar draws y byd rhwng y dauddegau a’r saithdegau; ac i rannu syniadau am beth yw ystyr heddwch i bobl ifanc heddiw.
- Darllen blog Heddwch ac Ewyllys Da UNA Cyfnewid a Blog Gwirfoddolwyr y Gwersyll Gweithio yn 2017
Llwybr Heddwch Caerdydd
I nodi ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Chaerdydd ym mis Awst 2018 a chanmlwyddiant Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, cafodd yr Ardd Heddwch ei gwella a chynhyrchwyd dehongliad dwyieithog ar gyfer lansiad Taith Heddwch yn y Ddinas, a guradwyd gan y darlledwr Jon Gower ac a ariannwyd gan Gymdeithas y Cymod.
- Lawrlwythwch ap Llwybr Heddwch Caerdydd ar gyfer Android ac Apple
- Mae cynnwys yr ap hefyd ar gael fel llyfr ‘Heddwch yn y Ddinas / Peace in the City’
- Gweld lluniau cyn Diwrnod Agored Eisteddfod yr Ardd Heddwch, Awst 2018
- Gweld y Llwybr Heddwch blaenorol yng Nghaerdydd gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru a grëwyd ar gyfer Teml75, 2013
#GarddHeddwch30, 2018
Fel rhan o ddathliadau #Teml80 ym mis Tachwedd 2018, trefnodd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ddiwrnod o hwyl i’r teulu i nodi 30 mlynedd ers agor yr Ardd Heddwch – pan ymunodd y sylfaenydd Robert Davies â disgyblion Ysgol Gynradd Parc y Rhath i gladdu capsiwl amser, dan arweiniad Lexi Tsegay oedd yn 8 oed ar y pryd.
Y bwriad yw codi’r capsiwlau amser o’r dathliadau hanner can mlwyddiant ac 80 mlynedd ar ganmlwyddiant y Deml Heddwch, yn 2038.
- Gweld lluniau o ddigwyddiad Ailgysegru’r Ardd Heddwch yn 30, Tachwedd 2018.
- Gweld fideo o ddigwyddiad Ailgysegru #GarddHeddwch30, Tachwedd 2018.