Arddangosfa ‘Merched, Rhyfel a Heddwch’

Written on 04-08-2017 by Ffion Fielding

Bydd ffotonewyddiadurwr o fri rhyngwladol yn arddangos ei gwaith yng Nghymru am y tro cyntaf yn yr arddangosfa “Menywod, Rhyfel a Heddwch”, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol.

Yn y 100 mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, beth yw effaith rhyfel ar fenywod yng Nghymru, a beth yw eu cyfraniad i’r broses o geisio sicrhau heddwch? Dyna’r cwestiwn y byddwn yn ceisio ei ateb gyda Lee Karen Stow, ffotonewyddiadurwr, yn ein harddangosfa ddiweddaraf: Menywod, Rhyfel a Heddwch.

Cynhelir yr arddangosfa – a ariennir trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri fel rhan o’r prosiect Cymru dros Heddwch – gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn y Senedd yng Nghaerdydd o 8 Awst 2017 hyd at ddiwedd mis Medi.

Ffotonewyddiadurwr o swydd Efrog yw Lee Karen Stow ac fe arddangosir ei gwaith ledled y byd – yn cynnwys Prifysgol Caergrawnt a phencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd. Mae hi wedi teithio’r byd yn casglu hanesion o ryfel a heddwch, ac am y tro cyntaf yr haf hwn, bydd detholiad o’i gwaith yn cael ei arddangos yng Nghymru.

Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer ei gwaith dogfennol o’i hymweliad â Sierra Leone yn 2007, lle cyfarfu â menywod a oedd wedi’u dadleoli gan ddegawd o ryfel cartref. Ers hynny mae wedi teithio’r byd yn cofnodi straeon personol menywod am ryfel a gwrthdaro, a straeon menywod sy’n ymgyrchu dros heddwch.

Meddai Lee Karen Stow: “Yn 2017, gofynnodd Cymru dros Heddwch i mi dynnu lluniau rhai o’r menywod lawer yng Nghymru sydd â phrofiad o ryfel a gwrthdaro neu yr effeithiwyd arnynt gan ryfel a gwrthdaro, a straeon yr ychydig fenywod hynny sydd wedi ymgyrchu, ac sy’n parhau i ymgyrchu, yn y gobaith o sicrhau heddwch. O’r wynebau a welir ar y waliau, nid ydynt ond yn ychydig o’r unigolion niferus na chlywyd eu hanes eto. Ein gobaith yw y bydd yr arddangosfa hon yn ennyn sgwrs am bresenoldeb hanesyddol a pharhaus rhyfel yn ein bywydau, ac am yr ymdrechion parhaus i sicrhau heddwch.”

I helpu i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, bydd prosiect Cymru dros Heddwch, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, yn ceisio cael 100,000 i ddysgu o adegau rhyfel – ac o adegau heddwch – i ddatgelu hanesion nas adroddwyd cyn hyn ac i ddangos rôl bwysig Cymru yn yr hanes hwn.

Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf

Mae gwaith Lee hefyd wedi ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ffotonewyddiadurwyr, diolch i brosiect cysylltiedig arianwyd gan Swyddfa’r Gomisiwn Ewropeaidd yng Nghymru. Tra oedd Lee yn ymweld â Chymru, fe’i ffilmiwyd gan Ffotogallery, yr asiantaeth genedlaethol ar gyfer ffotograffiaeth yng Nghymru, yn siarad am ei gwaith â myfyrwyr ffotograffiaeth o Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, Caerdydd. Defnyddiwyd y ffilm honno fel ysbrydoliaeth mewn cyfres o weithdai mewn chwe ysgol yn ne Cymru, a gynhyrchodd ffilmiau dogfen am storïau heddwch yn eu cymunedau. Bydd modd gweld detholiad o’r ffilmiau hyn fel rhan o’r arddangosfa.

Ymatebion Menywod i’r Rhyfel Byd Cyntaf

Caiff dwy o’r dogfennau hanesyddol a gedwir yn y Deml Heddwch eu harddangos ochr yn ochr â’r gwaith dogfennol, gan gynnig persbectif newydd ar effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar fenywod. Mae Llyfr y Cofio Cenedlaethol Cymru yn cynnwys enwau’r tua 35,000 o ddynion a menywod a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd yr arddangosfa hon yn canolbwyntio ar y menywod a gofnodir o dan Gorfflu Cynorthwyol y Frenhines Mary. Bydd copi digidol o’r llyfr, a grëwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, ar gael ochr yn ochr â’r llyfr go iawn, fel y gall pobl fwrw golwg agosach.

Dogfen led anhysbys yw Deiseb Menywod dros Heddwch, 1923-24, ond mae ei stori’n un ryfeddol. Dros gyfnod o ychydig fisoedd, llofnododd 390,296 o fenywod Cymru (tua 60% o’r boblogaeth o fenywod ar y pryd) ddeiseb yn gofyn i fenywod America arfer eu dylanwad a gofyn i’w llywodraeth ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd, fel ffordd o osgoi rhyfel byd echrydus arall. Bydd modd gweld wynebddalen hardd y ddeiseb a byddwn yn trafod ei hanes fel rhan o’r arddangosfa.

Eglurodd Ffion Fielding, Cydlynydd Arddangosfeydd ac Ymgysylltu Cymru dros Heddwch: “Pan ddaethom yn ymwybodol o waith Lee, gwnaethom achub ar y cyfle i ddod â ffotograffydd mor adnabyddus i Gymru. Y gobaith yw y bydd yr arddangosfa yn ysbrydoli teuluoedd i ymchwilio i’w storïau eu hunain, a’u rhannu â’r genedl drwy’r prosiect Cymru dros Heddwch.”

Ychwanegodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: “Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn gweithio gyda chymunedau ledled Cymru i nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

“Mae adrodd y straeon hyn mewn cynifer o wahanol ffyrdd ag sy’n bosibl yn hanfodol o ran eu rhannu â chynulleidfa eang fel y gallwn ddeall a dysgu am effaith rhyfel, ddoe a heddiw.”

Dywedodd Anne Jones AC, Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

“Braint ac anrhydedd yw cael cynnal arddangosfa Menywod, Rhyfel a Heddwch yn y Senedd, lle y bydd ochr yn ochr â’r Weeping Window, sef y cerflun gwych o babïau gan yr artist Paul Cummins a’r dylunydd Tom Piper.

“Mae’r ddwy arddangosfa yn peri inni bwyllo a meddwl am aberth cynifer o fenywod a dynion er mwyn amddiffyn democratiaeth a’n ffordd o fyw.”

Drwy’r haf, fel ymateb i’r arddangosfa, byddwn yn gofyn i bobl gyfrannu hanesion y menywod yn eu bywydau y mae rhyfel wedi effeithio arnynt neu sydd wedi ymgyrchu dros heddwch. Gallwch ddilyn yr ymgyrch hon ar Twitter #menywodrhyfelheddwch, neu gallwch fynd yn uniongyrchol i’r map heddwch ar ein gwefan i ychwanegu eich stori.

Merched, Rhyfel a Heddwch – Hanesion Cudd ac Arddangosfa #MerchedRhyfelHeddwch

Arddangosfa – Flickr

Straeon Digidol

 

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *