Athroniaeth i Blant

Athroniaeth i Blant, neu P4C yn fyr, yw dull addysgu ddisgybl-ganolog yn seiliedig ar:

Ymchwiliad Grwp (yn gweithio gyda’i gilydd mewn cymuned o ymholi i deall materion anodd/cysyniadau);

Myfyrio (meddwl am drafodaethau ac o bosibl newid agweddau/camau gweithredu o ganlyniad);
Datblygu sgiliau (meddwl beirniadol a chreadigol, sgiliau cyfathrebu a gweithio gydag eraill).
Dull ystafell ddosbarth parchus yw Athroniaeth i Blant (P4C) sydd yn helpu i wella sgiliau meddwl beirniadol disgyblion a’u gallu i gydweithio. Mae’n annog awyrgylch lle ceir trafodaeth agored, greadigol ymhlith disgyblion o bob oed, a nodwyd ei lwyddiant mewn nifer fawr o adroddiadau arolwg ar ysgolion ac astudiaethau academaidd.
Dyfeisiwyd P4C yn wreiddiol gan yr Athro Matthew Lipman yn yr Unol Daleithiau fel rhaglen ar gyfer plant a phobl ifainc rhwng 6 ac 16 oed. Mae crynodeb hylaw o’i hanes a’i werth i’w gweld yn: www.sapere.org.uk.
Wedi hen sefydlu, defnyddir P4C ar sawl ffurf trwy’r byd i gyd. Yn y DU, mae’n debyg mai SAPERE yw’r corff mwyaf adnabyddus sy’n hyrwyddo’r dull. Mae’n cydlynu rhaglen hyfforddi broffesiynol ar dair lefel er mwyn cynnal safonau uchel.
Achredir ein hyfforddwyr gan SAPERE i ddarparu cyrsiau Lefel 1. Mae eu hymagwedd at y gwaith yn cyfuno P4C gyda gofynion y cwricwlwm yng Nghymru megis Sgiliau Meddwl, ABCh ac ADCDF.

wciamembers1