Ymweliadau a Theithiau o’r Deml

Mae Teml Heddwch ac Iechyd Cymru yn adeilad gweithredol sy’n gartref i elusennau a mudiadau rhyngwladol sy’n gweithio gyda chymunedau a digwyddiadau ledled Cymru. Rydyn ni’n annog ymwelwyr â’r Deml Heddwch i archwilio’r gofod eiconig hwn drwy ymuno ag un o ddiwrnodau ‘drysau agored’ misol Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru.

I weld manylion Llogi Ystafell/Lleoliad, neu drefnu ymweliadau ‘galw heibio’ i sefydliadau preswyl, sgroliwch i lawr.

Teithiau o’r Deml a Diwrnodau ‘Drysau Agored’

temple of peace

Mae croeso i ymwelwyr â’r Deml Heddwch ddefnyddio llyfryn Taith Hunan-dywys Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, a gynhyrchwyd i ddathlu pen-blwydd y Deml yn 80 oed i archwilio prif nodweddion yr adeilad a’r arddangosfeydd.

Dydd Gwener olaf y mis yw ‘diwrnod drysau agored’ rheolaidd y Ganolfan, pan fyddwn yn croesawu’r cyhoedd i archwilio Teml Heddwch hardd Cymru gyda chymorth tywyswyr teithiau hyfforddedig a staff – gan gynnwys mynediad i Lyfrgell y Deml a’r Archifau ar gyfer ymchwilwyr/myfyrwyr. Gellir addasu’r amseroedd i weddu i anghenion grwpiau sy’n ymweld (dylech roi gwybod i ni ymlaen llaw), ond fel arfer dyma’r amseroedd y byddwn yn ceisio eu cynnig:

  • 10.30am-11.30am Taith Dywys y Bore (sy’n cynnwys seremoni troi tudalen Llyfr y Cofio am 11am). Gallwch chwilio drwy enwau Llyfr y Cofio ar-lein yma.
  • 12.30-13.30pm Taith Dywys Amser Cinio (sy’n cynnwys ymweld â’r Ardd Heddwch Genedlaethol)
  • 14.00-16.00 Gweithdy Archifau (cyfle i archwilio neu weithio yn y Llyfrgell/Siambr y Cyngor, ac i weld eitemau o Archifau a Chasgliadau’r Deml. Gallwch weld a chwilio drwy’r Casgliadau Digidol yma)
  • Teithiau Hunan-dywys. Mae croeso i chi alw heibio unrhyw bryd rhwng 10.30am-3pm – mewngofnodwch ar ôl i chi gyrraedd a mwynhewch yr ardaloedd ar eich liwt eich hun. Efallai yr hoffech ddilyn llyfryn Taith Hunan-dywys Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru; ac o fis Tachwedd 2018 ymlaen, bydd modd i chi lawrlwytho taith ar eich ffôn symudol (mae’r ddau hefyd ar gael o’r dderbynfa wrth i chi gyrraedd).

Gallwch wylio clipiau o’n Taith Beilot i Ddarganfod y Deml ar YouTube, o dan arweiniad Emma West, Mari Lowe a Carrie Westwater ym mis Hydref 2018.

Mae’r Ganolfan yn gofyn i ymwelwyr roi cyfraniad awgrymedig o £10 a fydd yn ein galluogi i barhau i gynnig mynediad i’r cyhoedd i’r adeilad eiconig hwn a’i straeon ysbrydoledig.

 

Dyddiadau Drysau Agored 2020

 

  • 24 Ionawr
  • 28 Chwefror
  • 27 Mawrth
  • 24 Ebrill – WEDI’I GANSLO
  • Mis Mai   (DS – mae dydd Gwener olaf mis Mai yn wyliau cyhoeddus, felly bydd y Deml ar gau)
  • 26 Mehefin
  • 31 Gorffennaf
  • Mis Awst  DS – mae dydd Gwener olaf mis Awst yn wyliau cyhoeddus, felly bydd y Deml ar gau)
  • 25 Medi
  • 30 Hydref
  • 27 Tachwedd

 

Gwyliwch fideo newydd ar beth i ddisgwyl wrth ymweld a’r Deml – wedi’i creu gan Loeiza, wirfoddolwr Cyfnewid UNA 

 

Trefnu Gweithdy / Ymweliad Grŵp Pwrpasol

Os hoffech drefnu taith bwrpasol o’r Deml ar gyfer ymweliad grŵp (neu unigolyn), Gweithdy Archifau / ymweliad Ymchwil, gyda chymorth wedi’i hwyluso/arbenigedd wedi’i deilwra, cysylltwch â cymrudrosheddwch@wcia.org.uk i drafod pecynnau posib y gallen ni eu cynnig i chi.

Llogi’r Lleoliad

Os ydych chi’n chwilio am leoliad cofiadwy ar gyfer eich digwyddiad eich hun, edrychwch ar becynnau Llogi Lleoliad y Deml Heddwch, o gyfarfodydd un-i-un i briodasau, cynadleddau a lleoliadau ffilmio.

Gall Teithiau o’r Deml hefyd gael eu cynnig fel dewis ychwanegol i gwsmeriaid sy’n llogi’r lleoliad (yn amodol ar argaeledd staff/gwirfoddolwyr) – trafodwch eich gofynion gyda’r Tîm Lleoliad wrth archebu er mwyn gwybod a ellir trefnu’r profiad unigryw ac ysbrydoledig yma i ategu’ch digwyddiad.

Ymweld â Mudiadau sydd yn y Deml Heddwch

Blwch llythyrau gwreiddiol yr “Adain Heddwch” o’r 1930au sy’n parhau i gael ei ddefnyddio bob dydd.

Mae pencadlysoedd y mudiadau canlynol, sy’n gweithio ledled Cymru, wedi’u lleoli yn y Deml Heddwch. Cynghorir ymwelwyr yn gryf i drefnu apwyntiadau galw heibio ymlaen llaw, drwy’r manylion cyswllt canlynol: