Adnoddau Dysgu yn y Cartref

Syniadau Gwobrau Heddywchwyr Ifanc

Mae Gwobrau Heddychwyr Ifanc 2020 wedi symud ar lein! Dyma rai syniadau i’ch ysbrydolli!

  1. Byddwch yn greadigol!
    Beth mae heddwch yn ei olygu i ti? Sut medrwn greu byd mwy heddychlon?
    Gelli fynegi dy hun trwy baent, clai, ffilm – pa gyfrwng bynnag sydd yn apelio atat ti – a rhannu’th gelfwaith gyda ni.
  2. Dychmyga! Sut mae hi’n teimlo – fel person ifanc – i fod yn gaeth mewn ardal lle mae rhyfel? Edrycha ar gerddi a grëwyd gan bobl ifanc. Nawr cer ati i sgrifennu dy gerdd, blog neu stori di. Gelli ddewis stori arbennig os wyt yn dymuno. Yna gelli rannu dy waith gyda ni yma.
  3. Beth am godi helynt dros heddwch? Cyfle da ar gyfer bod yn greadigol a chael ymarfer corff! Beth am greu cân, dawns, neu berfformiad am heddwch gyda’th ffrindiau – yna rhannu’r perfformiad gyda ni yma.
  4. Arwyr Byd-eang: Pwy yw dy arwr / arwres fyd-eang – Greta Thunberg? Malala Yousafzai? Beth am yr holl arwyr anghofiedig o’r gorffennol hyd heddiw? A fedri di ddod o hyd i wybodaeth am un? Ysgrifenna erthygl neu stori am dy arwr / arwres ddewisedig, a’i anfon atom.
  5. COVID-19 a Chyfyng-gyngor y Carcharorion: Beth mae COVID-19 yn ei ddweud wrthym am y natur ddynol? A ydym yn reddfol yn hunanol, neu yn fwy tebygol o gydweithredu? A ydy’r un rheolau yn wir am unigolion a llywodraethau? Pa effaith y mae’r firws yn debygol o’i chael ar ein cymdeithas, yn lleol ac yn fyd-eang, ac a fyddwn yn dysgu un rhywbeth ohono?  Ysgrifenna draethawd yn dadansoddi’r cwestiynau hyn a’i hanfon atom.

Ceisiadau caeedig