Gwobrau Heddychwyr Ifanc 2021

Y mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) am ddathlu pobl ifanc sydd wedi cyfrannu at heddwch a dinasyddiaeth fyd-eang yn eu hysgol, eu cymuned leol neu’n ehangach mewn amryw ffordd. Yn anffodus, mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni wedi’i ganslo oherwydd achosion Covid-19. Fodd bynnag, rydym wedi penderfynu y bydd y Gwobrau Heddychwyr Ifanc yn mynd yn eu blaen ar lein.

Gan fydd o bosibl ychydig mwy o amser rhydd gan rai plant a phobl ifanc, rydym yn gobeithio y cânt eu hysbrydoli i fod yn greadigol a mynegi eu syniadau am sut gall y byd fod yn fwy heddychlon, teg a chynaliadwy – trwy eiriau, celf neu gyfryngau digidol.

Gall pobl ifanc neu grwpiau unigol gystadlu o dan y categorïau canlynol. Mae hefyd yn dderbyniol enwebu rhywun arall (gyda’u caniatâd!).

Arwr/Arwyr Heddwch Ifanc y Flwyddyn:
Byddwch wedi bod yn weithgar dros heddwch yn eich cymuned leol neu eich cymuned ehangach, a bydd eich gweithredu wedi ysbrydoli eraill – eich cyfoedion neu bobl hŷn neu iau na chi eich hunain.

Dinasyddion Byd-eang Ifanc y Flwyddyn:
Bydd y rhai a enwebir wedi bod yn rhagweithiol o ran dysgu a chodi ymwybyddiaeth am faterion byd-eang a chreu gwahaniaeth, gan gynnwys datblygu deunyddiau, prosiectau ac ymgyrchoedd.

Sgwennwr/Sgwenwyr Heddwch Ifanc y Flwyddyn
Fe’ch gwahoddir i gyflwyno darnau gwreiddiol o waith sy’n ymwneud â thema heddwch mewn cyd-destun lleol neu fyd-eang. Gall cyfraniadau fod ar unrhyw ffurf, gan gynnwys barddoniaeth, ysgrifennu newyddiadurol (gan gynnwys blogio), cyfres effeithiol o drydariadau, bywgraffiadau, straeon, ac ati.

Artist/Artistiaid Heddwch Ifanc y Flwyddyn
Bydd y categori hwn yn dathlu mynegiant artistig gwreiddiol o heddwch wedi’i greu gan blant / pobl ifanc yn unigol neu fel rhan o grŵp. Gallai’r rhain fod mewn amrywiaeth o ffurfiau, gan gynnwys paentiadau, murluniau, cerfluniau, arddangosfeydd ffotograffig – a ffilm. Gallant adlewyrchu materion cyfoes ynghyd â ffyrdd o greu cymuned / byd mwy heddychlon.

This image has an empty alt attribute; its file name is image.png

Perfformwyr Heddwch Ifanc y Flwyddyn:
Bydd y categori hwn yn dathlu perfformiadau gwreiddiol a grëwyd gan blant / pobl ifanc yn unigol neu fel rhan o grŵp i fynegi’r thema heddwch. Gallant fod ar ffurf cerddoriaeth, cân, dawns neu gymysgedd o’r tair ffurf.

Dadansoddwr/Dadansoddwyr Byd-eang Ifanc y Flwyddyn:
Drwy eu dull beirniadol o drafod materion byd-eang, bydd y rhai a enwebir wedi galluogi eraill i ddeall yn well arwyddocâd y materion hyn ar gyfer ein cymdeithas gyfoes, yn enwedig mewn cyd-destun heddwch a diogelwch rhyngwladol.

I gofrestru eich diddordeb ac am fwy o wybodaeth, ewch i wefan y WCIA neu gysylltwch â centre@wcia.org.uk