“Mummy, there’s bad news about Ukraine.” Cefnogi plant gyda digwyddiadau byd-eang: Blog rhiant ac athro
gan Amber Demetrius, Cydlynydd Dysgu Byd-eang WCIA
“Mummy we’re watching the news and there’s bad news about the Ukraine…leave us a message and love you!“
Dyma’r neges llais ddiweddaraf a gefais gan fy merch (6 oed). Ar ôl ei glywed, edrychais ar y newyddion ar unwaith, gweld bod pethau fwy neu lai’r un peth ag yr oeddent awr o’r blaen, a’i ffonio’n ôl. Roedd ein trafodaeth yn canolbwyntio llai ar y digwyddiadau yn yr Wcráin, a mwy ynghylch a fyddwn i adref ar gyfer amser gwely.
Roeddwn mor falch mai dyma oedd yr achos. Fel rhieni ac athrawon, mae’n rhyddhad symud i ffwrdd o’r pethau sy’n digwydd yn y byd. Yn aml, mae digwyddiadau’r byd yn cynnwys hanesion cymhleth, presennol sy’n cynnwys rhwydwaith o wleidyddiaeth gymhleth, heb sôn am ddyfodol sy’n gallu ymddangos heb obaith. Mae’n anodd cyflwyno plant i’r cysyniadau hyn pan nad ydym yn llwyr ddeall y ffeithiau ein hunain, ac mae’n ddealladwy y buasem eisiau eu cysgodi rhag realiti llym y byd ehangach. Fel rhiant, mae’n hawdd bod eisiau amddiffyn diniweidrwydd ac fel athro, mae’n teimlo’n berthnasol i osgoi gwers lle gallech dramgwyddo rhywun yn eich cymuned.
Y broblem gyda hyn yw bod ein plant eisoes “allan yno”. Maen nhw’n delio â hiliaeth yn eu cymunedau, gyda globaleiddio yn eu bywydau dydd i ddydd. Mae fy merch yn aml yn awgrymu ein bod yn “gofyn i google” ddweud mwy wrthym am y newyddion, oherwydd ei bod yn deall bod cyfoeth o wybodaeth ar flaenau ein bysedd: fy ngwaith i nawr yw ei dysgu sut i’w werthuso o le saff a diogel. (Os hoffech wybod mwy am ffynonellau gwybodaeth ar-lein, mae ein cwrs ar-lein am ddim mewn Dinasyddiaeth Foesegol yn ymdrin ag agweddau ar lythrennedd digidol a meddwl yn feirniadol, a gellir cael mynediad ato drwy fynd i -Ethical informed citizens of Wales and the world Welsh Centre for International Affairs.
Nid wy’n dweud fy mod yn awgrymu ein bod ni’n dangos y trais llawn o ryfel i’n pobl ifanc. Fodd bynnag, pan fyddwn yn esgus nad yw digwyddiadau’r byd yn digwydd, rydym yn gadael ein plant i ddychmygu’r gwaethaf, i ddatblygu barn eithafol, ac i fyw mewn ofn.
Mae ein plant yn darganfod drostyn nhw eu hunain ac yn gwrando ar eu cyfoedion, eu rhieni a’u hathrawon yn siarad am y newyddion. Maen nhw’n gwneud eu synnwyr eu hunain o’r pethau sydd yn digwydd yn y byd. Os ydym yn rhedeg i ffwrdd oherwydd bod gennym ofn pechu rhywun, rydym yn gwneud cam â nhw a ninnau. Iddyn nhw, rydym yn tybio nad ydynt yn gallu deall, ac rydym yn anfon neges atynt nad yw gwleidyddiaeth a dinasyddiaeth “iddyn nhw”. I ni, rydym yn amddifadu’r byd o’r dinasyddion moesegol, gwybodus rydym yn gobeithio eu creu, ac yn amddifadu ein cymdeithas o’r cymorth y gallent ei roi i ni.
Siarad am ddigwyddiadau’r byd
Nid yw hynny’n golygu bod siarad am ddigwyddiadau mawr yn dasg hawdd ond gyda hynny mewn golwg, ar ôl myfyrio ar fy mhrofiadau’n ddiweddar gydag ymarferwyr Addysgwyr a Dinasyddiaeth, penderfynais mai’r rhain oedd fy awgrymiadau gorau ar gyfer athrawon a rhieni:
1. Byddwch yn gyfforddus gyda pheidio â gwybod popeth: rydych chi’n adnabod eich cynulleidfa, ac mae hynny’n ddigon!
Un peth roeddwn i’n ei gasáu fel athro oedd trafod pynciau nad oeddwn yn sicr yn eu cylch. O ran Digwyddiadau Byd-eang, rydym yn teimlo’n aml nad oes gennym gymaint o wybodaeth ag y byddem yn ei hoffi. Fodd bynnag, yr agwedd allweddol i’w chofio yw eich bod chi’n agor y sgwrs, a dim yn sefydlu eich hun fel arbenigwr. Mae arfer da yn gallu golygu cofnodi cwestiynau na allwch eu hateb ar bapur, yn ogystal ag unrhyw syniadau yr hoffech eu harchwilio. Mae arfer gwych yn meddwl am rywbeth y gallwch ei hoffi, ac adeiladu tystiolaeth ac ymchwil o’r sefyllfa honno gyda’ch person ifanc. Mae hefyd yn wych i bobl ifanc brofi’r broses o ymchwilio gydag oedolyn diogel.
Mae ffynonellau da o wybodaeth i chi a’ch person ifanc fel arfer i’w gweld ar wasanaethau newyddion i blant (mae BBC/Newsround yn enghraifft dda). Gallwch ddod o hyd i adnoddau rhagorol hefyd o amrywiaeth o elusennau perthnasol a gwefannau Llywodraeth Cymru. Fy awgrym i yw os nad ydych chi’n siŵr bod rhywbeth yn wir: peidiwch â’i rannu.
2. Beth bynnag rydych chi’n gyflwyno, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael dwy ochr y stori
Un agwedd allweddol ar faterion cyfoes yw eu bod yn tueddu i gael dwy ochr iddynt. Rydym naill ai o blaid mudo neu yn ei erbyn, o blaid yr Wcráin neu o blaid Rwsia. Mae cefnogi pobl ifanc i ddeall bod dwy ochr i bob stori yn allweddol o ran datblygu empathi a dealltwriaeth bod y gwirionedd yn aml yn cynnwys llawer o safbwyntiau gwahanol. Yn yr enghraifft a roddir uchod, er enghraifft, mae llawer o bobl yn Rwsia sydd ddim yn cefnogi gweledigaeth Putin. Yn yr un modd, mae rhai pobl yn yr Wcráin sydd ddim yn cefnogi Zelensky. Mae canllawiau ar sut i gael trafodaeth gyfoethog i’w gweld yma Home | Association for Citizenship Teaching (teachingcitizenship.org.uk), a gallwch glicio yma i gael mynediad i’n hyfforddiant ar-lein am ddim i greu a dadlau dros ddadleuon –Debate training – Welsh Centre for International Affairs (wcia.org.uk)
3. Mae pawb yn gallu cael barn, ond rhaid herio barn eithafol bob amser
Yn debyg i awgrym dau, ond mor bwysig dwi’n ei awgrymu ddwywaith! Y nod o agor fyny ar fyd materion byd-eang yw i helpu pobl ifanc i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau i ymateb i fyd yr 21ain Ganrif mewn modd caredig a chyfiawn. Am y rheswm hwnnw, mae’n rhaid i unrhyw farn sy’n eithafol (gwrthod gweld safbwynt y llall) gael ei hamlygu a’i harchwilio, a’i herio lle bo angen. Mae hyn yn golygu creu lle diogel ar gyfer barn (y mae llawer ohonynt yn “llithro i mewn” i’n hymwybyddiaeth), a holi’n dyner am gwestiynau meddylgar er mwyn cyrraedd y gwir. Gallwch weld adnodd gwych ar gyfer archwilio barn gyda grwpiau mwy yma Chwilio – toolkit.risc.org.uk. Chwiliwch – toolkit.risc.org.uk. Cynhyrchodd Oxfam hefyd ddadansoddiad rhagorol o sgiliau, gwybodaeth a gwerthoedd disgwyliedig ar gyfer dinasyddion Byd-eang sydd i’w gweld yma, ynghyd â’u canllaw i athrawon ar sut i addysgu materion dadleuol: Global citizenship guides | Oxfam GB
4. Dylech orffen bob amser gyda beth y gallwch ei wneud i helpu
Y rhan mwyaf anodd o siarad am ddigwyddiadau’r byd yw’r teimlad bod rhywun yn cyflwyno darlun llwm heb unrhyw botensial i newid. Fodd bynnag, fel y dywed y datganiad beth sy’n bwysig: “our world is diverse and dynamic, influenced by processes and human actions…”. Gorau po gyntaf y byddwn yn dysgu pobl i weithredu ar eu credoau, mwyaf grymus y byddwn yn gweld bod pobl yn dod. Isod, ceir rhestr (yn sicr ddim yn gynhwysfawr) o’r camau y gallwch eu cymryd:
- Ysgrifennu at eich Aelod Cynulliad lleol. Os nad ydych yn siŵr pwy yw hyn, mae’r wefan ganlynol yn rhoi dadansoddiad gwych o ddemocratiaeth Cymru, ac yn cael ei hysgrifennu gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc The Democracy Box – Omidaze
- Dod o hyd i elusennau lleol sy’n gweithio i gefnogi’r ymdrech, a gwneud rhywbeth i’w cefnogi. Gallai hyn olygu rhoddi dillad, trefnu digwyddiad gwerthu cacennau, digwyddiadau noddedig ac ati. Yn achos yr Wcráin/Rwsia, mae rhai o’r elusennau niferus sy’n gweithio i gefnogi isod:
Ukraine crisis: donate now to protect children – Unicef UK
Donate To Ukraine | Save The Children (support-savethechildren.org)
Ukraine Crisis Appeal | British Red Cross
Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru wedi cynllunio cynllun sesiwn llawn ar sut i greu newid, y gellir ei lawrlwytho ar gyfer athrawon yma: Changemakers – Welsh Centre for International Affairs (wcia.org.uk)
- Defnyddio pŵer y cyfryngau cymdeithasol. Cafwyd sylwadau yn yr Wcráin/Rwsia bod cymaint wedi cael ei gyfleu drwy’r cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys defnyddio mapiau Google, twitter, TikTok ac yn y blaen. Ar gyfer gwylwyr iau, bydd angen oedolyn arnoch i helpu
- Cael sgyrsiau myfyriol
Gwnewch hyn gyda’ch ffrindiau, eich teulu a’ch cymdogion. Po fwyaf yr ydym yn cefnogi pobl ifanc i ddeall digwyddiadau’r byd, y mwyaf y byddwn yn atal y digwyddiadau hyn rhag digwydd yn y dyfodol.
Pan siaradais gyda fy merch, yr hyn a ddywedais wrthi am yr Wcráin yw’r hyn dwi’n credu sy’n wir. Fe wnes i ei hatgoffa fod pob cenhedlaeth ifanc yn profi eu hunain yn fwy clyfar na’r genhedlaeth o’i blaen (Effaith Flynn Flynn effect – Wikipedia) Dywedais ein bod ni’n rhan o rywogaeth sydd wedi goresgyn pob rhwystr a roddwyd ger ein bron, gan gynnwys pandemig byd-eang yn y blynyddoedd diwethaf. Os gallwn gyflawni cymaint, gallwn gefnogi ein cymunedau i fynd i’r afael â hyn hefyd.
“Mae’n broblem anodd – ond mae’r byd i gyd yn gweithio arno.”