Pabell Heddwch @ Eisteddfod Genedlaethol 2025, Wrecsam
Map y Maes – Y Babell Heddwch @ Stondin 220-221
#Hiroshima80 – Dydd Mercher 6 Awst 2025
Hoffai Academi Heddwch a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru eich gwahodd i ddau ddigwyddiad arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol 2025 i nodi 80 mlynedd ers Hiroshima, a phwysigrwydd coffau ar gyfer gweithredu cyfoes dros heddwch.
11am – 11:40am @ Pabell Heddwch
Cofio, Cofio, Cofio: sgwrs rhwng Cian Ciarán a Catharine Nagashima gyda Dirprwy Gadeirydd Academi Heddwch, Jill Evans. Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael.
Byddwn yn cerdded o’r Babell Heddwch i Gerrig yr Orsedd
12:00pm @ Cerrig yr Orsedd a’r Pafiliwn: munud o dawelwch
12:01pm:
Hibakusha: ymunwch â ni ar gyfer dechrau première gosodiad sain Cian Ciarán fydd yn talu teyrnged i’r sawl a fu farw a’u teuluoedd yn nhrychineb Hiroshima. Bydd y gosodiad yn para chwe awr (12:01-6pm), gan gofnodi’r amser a gymerodd i awyren yr Unol Daleithiau, yr Enola Gray, gyrraedd Hiroshima. Mae’n wahoddiad i wneud ein myfyrdodau tawel ein hunain ar heddwch yng nghalon seremonïol y Maes.

