Portreadau o’r Hibakusha: Cofio 80 Mlynedd
Mae’r arddangosfa yn cyflwyno 14 o bortreadau lentigol o’r hibakusha, goroeswyr y bomiau atomig a ollyngwyd ar Hiroshima a Nagasaki. Mae pob portread yn cynnwys neges am heddwch gan y goroeswr, wedi ei chyfieithu i Gymraeg, Saesneg a Siapanaeg.
Ynghlwm hwn mae fideo byr am yr arddangosfa sy’n rhoi cipolwg i chi o’r arddangosfa a sut aethpwyd ati i’w chreu.
Bwriad yr arddangosfa “Portreadau o’r Hibakusha: Cofio 80 Mlynedd” yw annog trafodaeth ryngwladol addysgol am ddiarfogi niwclear, yn enwedig wrth i niferoedd yr hibakusha ostwng ac i’w negeseuon fynd yn angof.
Tocynnau – Ewch i wefan yr Eglwys Norwyaidd


