Cynhadledd Ysgolion Heddwch Cymru, 2021
Ar 18 Tachwedd daeth dros 100 o bobl at ei gilydd ar lein, gan gynnwys disgyblion cynradd ac uwchradd o ysgolion ledled Cymru i gymryd rhan yng Nghynhadledd Ysgolion Heddwch 2021.
Roedd fformat y digwyddiad ychydig yn wahanol eleni. Dewiswyd y thema ‘Cyfiawnder Hinsawdd’ ar gyfer sesiwn y bore – sef thema sydd yn dod â chonsyrn dros yr hinsawdd a dyhead am fyd tecach a mwy heddychlon at ei gilydd. Roedd y sesiwn hwn yn agored i ysgolion ledled Cymru ac – yn enwedig yn sgil COP26 – roedd diddordeb mawr gan ysgolion i gymryd rhan. Roedd awydd plant a phobl ifanc i ddysgu mwy am y pwnc a chreu newid yn drawiadol.
Fe wnaeth ein Cadeirydd, gweithredwraig ac ymgyrchydd dros yr Hinsawdd Clare James, ein cadw ar amser yn wych. Yn gyntaf clywom ni gan dri siaradwr – Ize Adava (Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru), Tomos Owen (Cydlynydd Integreiddio Ffoaduriaid, Oasis, Caerdydd) a John Stacey (cyn-Gydlynydd Gwlad, Amnest Rhyngwladol) – am sut mae rhai o’r cymunedau mwyaf bregus y byd yn cael eu heffeithio gan Newid Hinsawdd a’r effaith wirioneddol mae hyn yn ei chael ar eu bywydau. Wedyn cafodd mynychwyr y cyfle i ofyn cwestiynau naill ai yn y sesiwn neu yn y blwch ‘chat’. Roedd un ysgol am wybod pa wledydd yn y byd a gaiff eu heffeithio gwaethaf gan newid hinsawdd. Roedd person ifanc arall yn gofyn am farn y siaradwyr: a oedd COP26 wedi gwneud digon i liniaru sgil-effeithiau gwaethaf newid hinsawdd?
Yn dilyn y siaradwyr, cafodd y mynychwyr gyfle i gyfrannu at padlet, gan ychwanegu beth roeddynt wedi’i ddysgu, cwestiynau a syniadau am weithredi. Ychwanegodd mynychwyr at y platform hwn yn ystod y gynhadledd, gan rannu syniadau a sôn am weithredi sydd eisoes ar y gweill.
Mewn pedwar gweithdy edrychodd mynychwyr ar rai agweddau’n ddyfnach: beth mae cyfiawnder hinsawdd yn ei olygu a beth fedrwn wneud amdano; beth yw ysgolion lloches a sut i ymuno â’r rhwydwaith; sut gall plant a phobl ifanc sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed a gweithio gydag arweinwyr a gwleidyddion i greu newid.
Daeth cymaint o syniadau am weithredu o’r gynhadledd fel ei bod hi’n anodd eu cloriannu’n dwt. Roeddynt yn amrywio o ymgyrchoedd lleol megis gweithredu yn erbyn plastig defnydd-sengl, prynu nwyddau Masnach Deg a phlannu coed i ymgyrchoedd ehangach yn cynnwys ysgrifennu llythyron, arwyddo deisebau a phrotestio. Yng ngeiriau un athro: ‘Yn y lle cyntaf roedd y disgyblion yn meddwl mai dim ond un ysgol fach ydym, felly beth yw’r ots – ond nawr maen nhw yn deall bod pob newid bach yn gwneud gwahaniaeth. Mae’r plant am leihau nifer y cerbydau sydd yn dod i’r ysgol a lleihau faint o wastraff mae’r ysgol yn ei gynhyrchu.’ Penderfynodd ysgol arall greu Pwyllgor Hinsawdd ac edrych ar 4 peth penodol yn y tymor byr, gan gynnwys sefydlu system ailgylchu gwisg ysgol, hefyd hyrwyddo ac arwyddo deiseb yn gofyn i Lywodraeth y DU gynnwys llygredd milwrol wrth asesu maint allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Yn y prynhawn daeth ysgolion heddwch at ei gilydd i rannu arfer da a dathlu eu cyflawniadau, gan gynnwys cyflwyno tystysgrifau ‘rhithiol’ i 7 Ysgol Heddwch oedd wedi cyrraedd lefel nesa’r Cynllun. Roedd yn wych croesawi dros 30 o fynychwyr ac ysgolion i sesiwn y prynhawn, yn awgrymu diddordeb yn y Cynllun a’i botensial i hyrwyddo ethos ysgol gadarnhaol, dysgu traws-gwricwlaidd, a sgiliau allweddol megis meddwl yn feirniadol a chreadigrwydd. Agwedd drawiadol o’r Cynllun yw’r ffordd mae’n cydblethu elfennau lleol a byd-eang, yn cefnogi ysgolion i ddatblygu’u cymuned yn un heddychlon ond hefyd i edrych ar enghreifftiau o heddychwyr o Gymru ac i edrych ar heddwch yng nghyd-destun y Nodau Datblygu Cynaliadwy. Mae cefnogi pobl ifanc i ddod yn ddinasyddion egwyddorol gwybodus yng Nghymru a’r byd yn ganolog i’r Cynllun. Meddai un ysgol a fynychodd sesiwn y prynhawn: ‘Diolch am ddiwrnod bendigedig. Rydym wir wedi mwynhau dysgu am beth yw ysgol heddwch. Roeddem wrth ei bodd yn gweld yr holl waith a gyflawnwyd gan yr ysgolion eraill. Mae wedi’n hysbrydoli i fod yn rhan’ .
Daethpwyd â’r holl gyflwyniadau, fideos a gwerthusiadau o’r Gynhadledd at ei gilydd ar padlet yma.
Edrychwn ymlaen at 2022 ac i’n rhwydwaith Ysgolion Heddwch ddatblygu a thyfu!
Ysgol Gynradd Pum Heol – peace school level 3 / ysgol heddwch lefel 3.
Ysgol Parc y Tywyn – peace school level 3 / ysgol heddwch lefel 3.