#Teml80 – Mis yn dathlu Heddychwyr a mudiadau heddwch
Drwy gydol mis Tachwedd 2018, trefnodd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru raglen uchelgeisiol o ddigwyddiadau i ddathlu agor y Deml Heddwch ar 23 Tach 1938, a’i phen-blwydd yn 80 oed yn ogystal â #WW100 – canmlwyddiant Diwrnod y Cadoediad ar 11 Tach 1918, a dechrau’r “Broses Heddwch” ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, sydd wedi siapio cysylltiadau byd-eang dros y can mlynedd ers hynny.
Mae WCIA wedi cyflwyno mwy na 43 o ddigwyddiadau gydag ystod eang o bartneriaid, gyda phob un yn archwilio rhan o’ Dreftadaeth Heddwch’ Cymru, a gwaith sefydliadau’r Deml yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Mae wedi arddangos gwaith gwirfoddolwyr a chymunedau sydd wedi cyfrannu at y rhaglen Cymru dros Heddwch hefyd rhwng 2014-18, trwy gyfrwng yr Arddangosfa Cymru dros Heddwch, Nod y blog hwn yw cadw cofnod o’r dolenni ac adnoddau o’r holl weithgareddau hyn gyda’i gilydd, fel maen nhw’n dod ar gael.
Lleisiau 1938 – Clippings Projection
LleisiauTeml80 – Ffilm
Rhaglen Ddigwyddiadau Mis Tachwedd – Teml80 (sgroliwch i weld recordiadau)
Edrychwch ar y Edrychwch ar y rhaglen lawn o ddigwyddiadau – Saesneg; Cymraeg; Eventbrite
View ‘Assemble’, a gyfansoddwyd ar gyfer Teml80 / WW100; Cymraeg
Gwrandewch ar ‘Assemble’, a gyfansoddwyd ar gyfer Teml80 / WW100 Iffy Iwobi a Jon Berry
Noson Pen-blwydd Teml80
Prif atyniad Teml80 oedd y noson gala ar 23 Tachwedd, a fynychwyd gan tua 230 o bobl ac a oedd yn cynnwys:
– Teithiau Hunan-dywys o’r Deml Heddwch, a Teml80 / arddangosfa Cymru dros Heddwch.
– Perfformiad ‘Mecca Newydd’ –-mewn partneriaeth â Dr Emma West, Prifysgol Birmingham a’r Academi Brydeinig; Gŵyl Bod yn Ddynol; Cydweithfa Gentle Radical a 50 o wirfoddolwyr a chyfranogwyr o grwpiau cymunedol amrywiol. Darllenwch ’A New Mecca for today’ blog – Gŵyl Bod yn Ddynol gan Dr Emma West.
– Ailgysegriad Neuadd y Cenhedloedd gan y Gymuned (yn ôl i’w theitl 1938 wreiddiol, fel y darganfuwyd o’r archifau)
– Bwyd, Diod a Thân Gwyllt
– Lansio ‘Voices of Temple80’ – Ffilm Ddogfen gan Tracy Pallant / Amy Peckham / Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro
– Derbyniad ac aduniad alumni VIPs WCIA, a Thorri ‘Cacen Enfys’
Pen-blwydd yr Ardd Heddwch yn 30 oed
Ar ddydd Sadwrn, 24 Tachwedd, cafodd hyn ei ddilyn gan y digwyddiad #Ailgysegru’r Ardd Heddwch30 a Diwrnod Difyr i’r Teulu, lle daeth WCIA â gwirfoddolwyr ac alumni rhyngwladol Cyfnewid UNA a Sylfaenydd yr Ardd Heddwch Robert Davies at ei gilydd gyda phlant o Ysgol Gynradd Parc y Rhath.
Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw ddadorchuddio dau fosaig lliwgar newydd (wedi’u creu gan wirfoddolwyr rhyngwladol) ar fynedfa fwaog newydd yn yr Ardd Heddwch; fe wnaethon nhw gladdu Capsiwl Amser yn yr Ardd, i’w agor ymhen 50 mlynedd; ac fe wnaethon nhw ddadorchuddio plac ar un o ystafelloedd cyfarfod WCIA er anrhydedd i Robert Davies, a’r holl wirfoddolwyr ieuenctid rhyngwladol sydd wedi cael eu hysbrydoli ganddo, o 1973 hyd heddiw.
Arddangosfa #Teml80 ‘Cymru dros Heddwch’
Roedd yr Arddangosfa oedd yn cyd-fynd â Teml80, yn ceisio dwyn ynghyd stori’r Deml, gyda threftadaeth Heddwch Cymru o’r 100 mlynedd diwethaf – gan gynnwys hanesion cudd oedd wedi cael eu casglu gan grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr rhwng 2014-18 – ynghyd ag ymatebion gan bobl ifanc, ysgolion ac artistiaid.
View Teml80 – Canllaw o’r Arddangosfah – Saesneg; Cymraeg
Bu Artistiaid Preswyl yn arddangos amrywiaeth o ymatebion i ymwelwyr ymchwilio’n ddyfnach i storïau’r Deml:
- Cyfansoddodd Jon Berry, Artist Preswyl Teml80, gyfres o osodiadau cerddorol yn ymateb i ofodau a threftadaeth y Deml; a chydweithiodd hefyd â’r cerddor Iffy Iwobi i gynhyrchu a pherfformio ’Assemble’, teyrnged gerddorol wyth munud ar gyfer Gwasanaeth Coffa ar gyfer Cymunedau Duon a Lleiafrifoedd Ethnig. .
- Ness Owen, casgliad o bum cerdd sy’n ymateb i ddeunyddiau treftadaeth mewn arddangosfa;
- Will Salter, ‘ Guiding Hand ‘ – taith amgen o amgylch y Deml yn annog gwerthfawrogiad gofodol dyfnach;
- Hazel Elstone, torch amryliw o babïau’r cofio wedi’u crefftio mewn coch, gwyn, du a phorffor
- Lee Karen Stow, gyda’i harddangosfa ffotograffiaeth ‘ Merched, Rhyfel a Heddwch’;;
- Tracy Pallant & Amy Peckham, gyda’u ffilmiau cymunedol yn cynnwys Temple80 Rap Teml80 gan yr arlunydd Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig Jon Chase
Recordiadau–o Ddigwyddiadau Teml80
Sylw’r Cyfryngau
Y Deml Heddwch ac uchelgais ryngwaladol Cymru – BBC Cymru fyw
A New Mecca for Today? Blog Gŵyl y Bod Dynol gan Dr. Emma West, Academi Brydeinig
‘We Will Remember Them’ – Rhaglen Ddogfen y BBC gan Huw Edwards (Mae’r Deml Heddwch yn cael ei chynnwys mewn tua 5 munud o’r rhaglen, gyda Dr Emma West a Dr Alison Fell)
How Wales’ most Tragic Mother spread Peace and Hope – Western Mail / Wales Online
Cardiff’s Temple of Peace opens its doors to celebrate 80th birthday – Erthygl Prifysgol Birmingham
War Mothers as Peace Builders – Prifysgol Birmingham
Remembrance Weekend at Temple of Peace – The Cardiffian
Temple of Peace turns 80 – The Cardiffian
Archifau’r Cyfryngau Cymdeithasol
Negeseuon Trydar a’r Cyfryngau: https://twitter.com/walesforpeace?lang=en
Sianel Fideos Youtube: : https://www.youtube.com/channel/UC0G2l7QV_yPDU4RHB8hEEPg?view_as=subscriber
Recordiadau Digwyddiadau Soundcloud: : https://soundcloud.com/walesforpeace
Albwm Flickr: https://www.flickr.com/photos/129767871@N03/albums
Casgliadau Archif Casgliad y Werin Cymru: https://www.peoplescollection.wales/user/8498/author/8498/content_type/collection/sort/date
Tudalen Gymunedol Facebook: https://www.facebook.com/pg/walesforpeace/posts