Cyflwyno Hayley Morgan, Prif Weithredwr newydd WCIA
o fis Mehefin 2024
Gyda chefndir mewn rheoli rhaglenni ac arweinyddiaeth yn y sector dyngarol rhyngwladol, yn ogystal â’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus yng Nghymru, mae Hayley yn gyffrous dros ben i ymuno â WCIA fel ei Phrif Swyddog Gweithredol newydd.
Dychwelodd Hayley adref yn 2018 ar ôl byw y tu allan i Gymru am bron i ugain mlynedd yng Ngweriniaeth Canolbarth Affrica, Chad, Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo, Gweriniaeth Congo, Ffrainc, Malta, Sbaen a Thwrci. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n gweithio yn y sector preifat ac yn Opera Cenedlaethol Paris, cyn treulio bron i ddegawd yn rheoli adnoddau ac arwain prosiectau gyda Medicins sans Frontieres mewn ardaloedd gwrthdaro ac ôl-gwrthdaro.
Roedd byw ar draws y byd yn caniatáu iddi ddysgu Ffrangeg a Sbaeneg ac Arabeg sylfaenol tra’n cael y fraint o ddysgu’n helaeth am wahanol ddiwylliannau a chyd-destunau, yn ogystal â gweld effeithiau gwrthdaro a chynnwrf, ymfudo gorfodol a gwytnwch anhygoel gan y bobl y gwnaeth hi eu cyfarfod â byw ochr yn ochr â nhw.
Gyda chymysgedd o ryngwladoldeb, gwaith datblygu a phrofiad o weithio yn y trydydd sector a’r gymdeithas sifil, mae Hayley wedi canolbwyntio ar fywyd sy’n llawn awydd i ddysgu am y bobl a’r hanesion sydd y tu ôl i’r penawdau newyddion, ac sy’n llawn chwilfrydedd ynghylch cyfnewid gyda phobl a gweithio i ddod â phobl at ei gilydd ar draws diwylliannau, ac alinio ei gwerthoedd â rhai’r WCIA. Ar hyn o bryd, mae hi’n astudio gradd Meistr rhan-amser mewn Cysylltiadau Rhyngwladol, lle mae ei thraethawd hir yn canolbwyntio ar rwystrau i heddwch.
Wrth ymuno â WCIA, mae Hayley yn dod â’i phrofiad o fyw ar draws y byd a’i chartref yng Nghymru, ac yn cyfuno ei hangerdd dros ddod â’r ddau hyn at ei gilydd. Ar ôl mynd â straeon a chariad at Gymru dramor, mae hi bellach eisiau gweithio gyda chymunedau ac unigolion i gynyddu dealltwriaeth a chysylltedd rhyngwladol ymhellach yng Nghymru. Gyda ffocws ar heddwch, yr amgylchedd, dealltwriaeth ddiwylliannol a dealltwriaeth o’r rhan y gall Cymru ei chwarae yn y byd, mae Hayley yn falch iawn o allu gweithio gyda’r tîm ysbrydoledig yn WCIA, ei phartneriaid a chymunedau Cymru.