Siarter Masnach Deg Rhyngwladol
Masnach Deg Cymru
Mae’r cynnydd mewn anghyfartaledd, tlodi hirsefyldog ac argyfwng ecolegol sy’n dwysáu wedi ysgogi’r gymuned fyd-eang i chwilio am fodelau newydd o fusnes a masnach sy’n gyrru economïau teg a chynaliadwy. Mae’r Siarter Masnach Deg Rhyngwladol newydd yn cynnwys gweledigaeth gyffredin a gwerthoedd sylfaenol y mudiad Masnach Deg i’n rhoi ar y llwybr i wireddu’r Nodau Datblygu Cynaliadwy.
Cymryd Rhan
Cliciwch yma i lawrlwytho’r siarter, sydd ar gael mewn sawl iaith.
Gallwch fynegi ‘dyfyniad o gefnogaeth’ ar gyfer y siarter hefyd, drwy glicio yma