CROESO i’r Academi Heddwch
Croeso i gartref Academi Heddwch – sefydliad heddwch cyntaf Cymru.
Diben yr Academi Heddwch yw ymestyn traddodiad cryf Cymru o ran hyrwyddo a gweithio dros heddwch, drwy ddatblygu a chydgysylltu cymuned o ymchwilwyr annibynnol mewn meysydd cysylltiedig.
Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, bydd Academi Heddwch Cymru yn gweithio i sicrhau bod lle cadarn i heddwch ar agenda genedlaethol Cymru ac ar y llwyfan cenedlaethol, drwy gyfrwng y rhwydwaith byd-eang o sefydliadau heddwch sydd eisoes yn bodoli.
Datblygiad yr Academi Heddwch
- Mae grwpiau cymdeithas sifil wedi bod yn ymgyrchu dros sefydlu Sefydliad neu Academi Heddwch er 2008. Gweler y cynnig gwreiddiol ar gyfer Sefydliad Heddwch i Gymru (yn Archifau CND Cymru).
- Yn 2013 cynhaliodd y Cynulliad Cenedlaethol ymgynghoriad cyhoeddus i archwilio’r gefnogaeth i Sefydliad Heddwch yng Nghymru. Gweler Cofnodion y Pwyllgor Deisebau.
- Yn 2013 galwodd Jill Evans ASE ar Brif Weinidog Cymru i sicrhau bod ‘heddwch’ wrth galon Rhaglen Cymru i nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Gweler erthygl Jill Evans yn Peace News.
- Yn 2015 gwnaed ymchwil Academi Heddwch / Menter Sefydliad Heddwch Cymru (yn adeiladu ar Adroddiad ‘Khaki Dragon’ gan Cymdeithas y Cymod) – a chyhoeddwyd adroddiad ganddynt ar bresenoldeb a dylanwad milwrol yng Nghymru, ‘Military Presence and Influence in Wales’ (awdur: Estella Benson). Lawrlwythch Grynodeb / Lawrlwythwch Adroddiad Llawn / Gweler datganiad i’r wasg Awst 2015.
- Yn 2017 cynhaliodd Emily Forbes, gwirfoddolwr gyda Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, brosiect ymchwil gan fapio Sefydliadau heddwch ledled y byd. Gweler yr adroddiad llawn / gweler crynodeb o’r adroddiad / gweler y tabl cymharol / gweler dolenni cyswllt.
- Yn 2020, dyfarnwyd arian gan Lywodraeth Cymru.
- Gorffennaf 2021, penododd Academi Heddwch ei aelod staff cyntaf! Ymunodd Ameerah fel Cydlynydd Academi Heddwch.
- Medi 2021, cyhoeddwyd Dr. Rowan Williams yn Gadeirydd Academi Heddwch Cymru.