Swyddi
Cydlynydd Gwirfoddolwyr, Climate Cymru
Cyflog: £29,514 pro rata
Oriau: 2 ddiwrnod yr wythnos (14.8 awr). Gall yr oriau wythnosol gwirioneddol amrywio a fydd yn cael eu rheoli trwy ein polisïau TOIL a gweithio hyblyg.
Telerau cyflogaeth: Cytundeb 11 mis, o’r 1af o Fai 2024 i’r 31ain o Fawrth 2025
Mae Climate Cymru (https://climate.cymru/) yn fudiad o filoedd o unigolion, a rhwydwaith amrywiol o dros 370 o sefydliadau o bob sector yng Nghymru – prifysgolion, busnesau, elusennau, grwpiau ffydd, sefydliadau, grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol , ac undebau. Rydym yn cydnabod bod angen gweithredu teg a brys ar gyfer argyfyngau hinsawdd a natur. Credwn y dylai gweithredu gael ei arwain gan wyddoniaeth a lleisiau pobl ledled Cymru.
Mae Climate Cymru yn cael ei gynnal gan Ganolfan Gymreig Materion Rhyngwladol (WCIA) ar ran y rhwydwaith. Mae WCIA yn elusen sy’n ysbrydoli pobl yng Nghymru i ddysgu am faterion byd-eang a gweithredu arnynt. Gweledigaeth WCIA yw bod pawb yng Nghymru yn cyfrannu at greu byd tecach a mwy heddychlon.
Crynodeb o’r Rôl
Mae Climate Cymru wedi sicrhau cyllid i redeg rhaglen wirfoddoli blwyddyn o hyd yng Nghymru o’r enw “Negeswyr Hinsawdd”, a fydd yn rhedeg ochr yn ochr ag ymgyrchoedd a gwaith Climate Cymru, yn bwydo i mewn iddynt ac yn eu hategu.
Rydym yn chwilio am Gydlynydd Gwirfoddoli brwdfrydig a threfnus i ymuno â’n tîm a chwarae rhan hanfodol wrth roi hwb i’r rhaglen. Fel y Cydlynydd Gwirfoddolwyr, byddwch yn gweithio’n agos gyda Chydlynydd y Rhwydwaith, ymgyrchwyr, a chydweithwyr cyfathrebu i wreiddio gwirfoddoli yn ein gwaith trwy sefydlu systemau, hyfforddiant a phrosesau recriwtio newydd, yn ogystal â sefydlu a chefnogi gwirfoddolwyr newydd.
Byddwch hefyd yn cefnogi cydweithwyr ac yn eu helpu i ddeall sut i ymgorffori profiad gwirfoddoli o safon yn eu ffrydiau gwaith eu hunain. Byddwch yn ysbrydoli cyfranogiad gan wirfoddolwyr, gan ddefnyddio eich brwdfrydedd ynghylch gweithredu cyfiawnder amgylcheddol a chymdeithasol yn ogystal â’ch sgiliau rhyngbersonol rhagorol.
Dyddiad cau: 9yb Mawrth 25ain