Hyfforddiant Cyn Gadael ar gyfer Gwirfoddoli Rhyngwladol 

Current Status
Not Enrolled
Price
Free
Get Started

Hyfforddiant Cyn Gadael ar gyfer Gwirfoddoli Rhyngwladol 

Croeso i’ch cwrs hyfforddi cyn gadael. Bydd y sesiynau hyn yn rhoi sgiliau a hyder i chi ar gyfer eich lleoliad gwirfoddoli. 

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys 6 gwers a ddylai gymryd tua 30 munud yr un i’w chwblhau. Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru wedi creu’r cwrs hwn gyda chymorth ein ffrindiau gwych yn FEC. Mae FEC – Y Sefydliad Ffydd a Chydweithredu, yn sefydliad anllywodraethol ar gyfer datblygu, a sefydlwyd ym 1990 gan yr Eglwys Gatholig ym Mhortiwgal, mewn cydweithrediad agos ag Eglwysi gwledydd sy’n siarad Portiwgaleg. Ei genhadaeth yw Hyrwyddo Datblygiad Dynol Cyfannol ar sail gweledigaeth o greu cymdeithas lle mae pob person yn gallu byw ag urddas a chyfiawnder.  

Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn elusen a lansiwyd ym 1973, wedi’i lleoli yn y Deml Heddwch ac Iechyd yng Nghaerdydd, sy’n cwmpasu Cymru gyfan. 
Gweledigaeth Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yw bod pawb yng Nghymru yn cyfrannu at greu byd tecach a mwy heddychlon. Er mwyn cyflawni hyn, ein cenhadaeth yw ysbrydoli pobl i ddysgu a gweithredu ar faterion byd-eang. Rydym yn credu bod gwirfoddoli a gwirfoddoli rhyngwladol yn rhan bwysig iawn o’r genhadaeth hon, a bydd y cwrs hwn yn eich helpu ar hyd y daith! 

Er mwyn eich paratoi ar gyfer eich lleoliad gwirfoddoli, gwyliwch y fideos hyn gan bobl ifanc a fynychodd leoliad ‘gwersyll gwaith’ tymor byr yng Nghymru yn 2024. 

Course Content

Expand All