Sut i Ddadlau

Current Status
Not Enrolled
Price
Free
Get Started

Canllaw ar gyfer y rheini sydd eisiau lleisio eu barn

Pan rydym yn edrych ar y byd o’n cwmpas, rydym yn gweld dadleuon ymhobman. O deulu a ffrindiau sy’n gwneud penderfyniadau bob dydd i wneuthurwyr penderfyniadau yn y senedd yn dadlau ynghylch p’un a ddylai rhywbeth ddod yn gyfraith ar gyfer gwlad gyfan ai peidio. Mae’r byd rydym yn byw ynddo yn cael ei lunio drwy sgwrs, ac mae cyfnewid a chyd-ymweithio dadleuon yn ein galluogi i edrych ar yr holl agweddau ar syniad cyn inni ruthro i weithredu.

Un ffordd y daw’r byd yn annheg yw pan nad oes gan bawb yr un sgiliau i’w cyflwyno i ddadl. Gall rhywun sydd â sgiliau perswâd rhagorol wneud i syniadau ofnadwy hyd yn oed ymddangos yn rhesymol, tra gall rhywun sydd heb lawer o sgiliau cyfathrebu gael trafferth cyfleu safbwyntiau a syniadau pwysig.

Am y rheswm hwn, rydym wedi creu’r “cam cyntaf” hwn wrth greu dadl. Bydd y cwrs hwn yn trafod:

  • Sut i beidio â dadlau
  • Sut i ffrwyno pŵer cwestiynau’n effeithiol?
  • Sut i weithio’n gryno
  • Sut i adeiladu dadl
  • Sut i reoli gwrthdaro yn ystod dadleuon
  • Sut i amddiffyn eich sefyllfa

Cyn i ni ddechrau arni, cwblhewch yr hunanasesiad byr hwn i weld sut rydych chi’n graddio eich sgiliau eich hun. Byddwn yn ei wneud eto ar y diwedd.

Create your own user feedback survey

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n teimlo’n hyderus iawn ar hyn o bryd. Dyna beth yw pwrpas yr hyfforddiant hwn! Fe welwch, po fwyaf y byddwch yn ymarfer, gorau oll y byddwch yn dod yn cyflawni bob un o’r agweddau hyn ar ddadlau, a’r mwyaf y byddwch yn ei ddysgu.  

Yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), rydym yn credu y gall pawb gyfrannu at greu byd tecach a mwy heddychlon. Mae ein dadlau wrth wraidd hynny, gan ei fod yn dysgu pobl i feddwl yn feirniadol am ddadleuon, i fyfyrio ar yr wybodaeth sydd yn cael ei rhoi iddynt, ac i fynegi eu barn yn glir. Eleni, rydym yn gyffrous i allu cynnig yr hyfforddiant hwn i unrhyw un sydd eisiau bod yn rhan ohono, ac rydym yn ddiolchgar i’n cyllidwyr yn WCVA am weld y potensial ar gyfer y prosiect hwn, ac am ein cefnogi i’w gyflawni.