Felly, rydym wedi gweld, o fewn y categorïau sector aneglur hyn, y gallwn ddod o hyd i ystod enfawr o actorion economaidd.
Mae llawer mwy o ffyrdd o ddisgrifio’r sefydliadau hyn na’r rhai yr ydym wedi’u harchwilio uchod – rhowch gynnig ar y gweithgaredd paru isod: (sylwer bod gorgyffwrdd rhwng y rhain – nid ydynt yn gwbl annibynnol ar ei gilydd).
Create your own user feedback surveyMae enwau eraill ar gyfer y mathau hyn o actorion economaidd yn wahanol rhwng gwledydd, a gallant feddu ar statws cyfreithiol diffiniedig, ond mae’r categorïau eang hyn yn berthnasol yn y rhan fwyaf o leoedd.
Partneriaeth a NDC17
Mae un o’r NDCau yn ymwneud yn benodol â rôl yr actorion economaidd amrywiol hyn o ran cyflawni’r NDCau, gyda phwyslais ar y ffaith fod angen i bob un ohonynt chwarae rôl. Mae NDC17 yn nod eithaf unigryw. gan ei fod yn ymwneud â sut y cyflawnir yr holl nodau eraill. Gwyliwch y fideo i gael gwybod mwy.
Mae’r angen i weithio mewn partneriaeth yn glir, ond nid yw’r nod bob amser yn adlewyrchu un o’r heriau mwyaf o ran gweithio mewn partneriaeth – cydbwysedd pŵer.
Gall partneriaeth fod yn anodd pan fydd gwahaniaethau pŵer mawr – meddyliwch am gwmni rhyngwladol sy’n gallu agor ffatri yn unrhyw le yn y byd o’i gymharu ag undeb gweithwyr cenedlaethol neu weithiwr nad yw’n aelod o undeb; neu gorff anllywodraethol sy’n gallu fforddio mynychu a lobïo’r Cenhedloedd Unedig o’i gymharu ag elusen fach, wledig ar lawr gwlad. Byddwn yn edrych ar rôl pŵer yn fwy manwl yn yr ail gwrs, ond yn y cyfamser, edrychwch ar y cartwnau a rhannu anghydbwysedd pŵer rydych chi’n ei nodi.