Fel llysgennad NDC12, nid ydych yn ystyried eich penderfyniadau eich hun yn unig – gallwch ddylanwadu ar eich ffrindiau a’ch teulu, eich lle astudio neu waith, neu ar fusnesau cymunedol a lleol hefyd.
Deall eich effaith
(Responsible consumption) – Mae defnyddio cyfrifol yn ymwneud â lleihau eich effaith negyddol ar bobl a’r blaned ac ar yr un pryd, ceisio bod o fudd i bobl os yn bosib hefyd. I’r amgylchedd, mae’r 5R yn lle da i ddechrau.
(Refuse) Gwrthod: peidio â phrynu/defnyddio pethau nad oes eu hangen arnoch
(Reduce) Lleihau: prynu/defnyddio llai (er enghraifft, prynu llai o fwyd darfodus fel nad oes angen i chi daflu unrhyw beth i ffwrdd)
(Reuse) Ailddefnyddio: defnyddio eitemau yn yr un ffordd eto (er enghraifft, ail-lenwi poteli neu ailddefnyddio papur lapio)
(Repurpose) Ailbwrpasu: defnyddio eitemau eto mewn ffordd wahanol (er enghraifft, defnyddio hen CDs fel matiau bwrdd)
(Recycle) Ailgylchu: fel arfer mae’n golygu rhoi eitem yn eich gwastraff ailgylchu fel y gellir ei brosesu a’i ddefnyddio mewn ffordd arall – mae hyn yn olaf ar y rhestr oherwydd, er ei fod yn well na thaflu rhywbeth i ffwrdd, mae ailgylchu yn dal i gymryd llawer o ymdrech
Beth arall y gallaf ei ystyried wrth wneud penderfyniadau prynu?
Mae defnyddio cyfrifol yn effeithio ar NDCau eraill hefyd, gan gynnwys y NDCau amgylcheddol a NDC8 Gwaith teilwng a thwf economaidd.
Ydy pobl yn cael cyflog byw yn y gadwyn gyflenwi? Ydy’r sefydliad yn un Masnach Deg ac yn rhydd o gaethwasiaeth?
Beth am y deunyddiau crai? Ydyn nhw’n cael eu cyrchu’n foesegol? Oes ymgais i gyflawni cynaliadwyedd?
Sut mae’r cydbwysedd rhwng y rhywiau yn y sefydliadau? Ydy menywod mewn swyddi uwch?
Beth yw’r ymrwymiadau i fioamrywiaeth a gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd?
Ar gyfer rhai o’r rhain, gallwch gyfeirio at safonau a marciau ansawdd (masnach deg a b-corps er enghraifft). Ar gyfer pryniannau neu fuddsoddiadau mwy, efallai y byddwch yn gwneud ychydig o ymchwil uniongyrchol eich hun, neu’n defnyddio adnoddau fel y Good Shopping Guide.