Materion Cyfreithiol | Darlith Flynyddol 2025 – “Menywod, Heddwch, a Chyfraith Ryngwladol” – Christine Chinkin o LSE

Materion Cyfreithiol | Darlith Flynyddol 2025 - "Menywod, Heddwch, a Chyfraith Ryngwladol" - Christine Chinkin o LSE

When

04/12/2025    
6:00 pm - 7:30 pm

Bookings

£0.00
Book Now

Where

Temple of Peace
Map

Pwyllgor Materion Cyfreithiol Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA)

Darlith Flynyddol 2025 – Menywod, Heddwch, a Chyfraith Ryngwladol: Pŵer a Gwrthwynebiad

Yr Athro Christine Chinkin, London School of Economics (LSE)

Dydd Iau 4ydd o Ragfyr 2025, 6-7.30pm

Y Deml Heddwch ac Iechyd, Caerdydd

Bydd y ddarlith hon yn amlinellu cynnydd arferol dros y degawdau diwethaf drwy lens hawliau menywod, a gweithgarwch menywod i fynd ar drywydd cydraddoldeb a heddwch trwy gyfraith ryngwladol. Mae’r lens hon yn dangos sut y gellir cyflawni cynnydd, a bregusrwydd y cynnydd hwnnw yn yr amgylchedd cyfoes sy’n elyniaethus i reol cyfraith ryngwladol. Bydd yn gorffen trwy ofyn sut y gall cyfreithwyr, actifyddion ac eiriolwyr wrthsefyll erydiad arferion o’r fath, a p’un ai y gall cyfraith ryngwladol ei hun fod yn adnodd sy’n gwella cyfiawnder cymdeithasol a heddwch – adnodd y dylsem ddal ein gafael arno yn yr amgylchedd presennol.

Sefydlwyd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) fel ymddiriedolaeth elusennol ym 1973, ond mae ei gwreiddiau’n ymestyn yn ôl i sefydlu Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Ei nod yw ysbrydoli pobl yng Nghymru i ddysgu a gweithredu ar faterion byd-eang.

Mae’r Pwyllgor Materion Cyfreithiol, sydd ag aelodau o holl Ysgolion y Gyfraith Cymru ac ymarferwyr cyfraith ryngwladol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru neu sydd â chysylltiad â Chymru, yn darparu fforwm ar gyfer trafod materion cyfoes cyfraith ryngwladol.

Bookings

Tickets

(Free ticket - please provide names of attendees under 'comment' below)

Registration Information

Booking Summary

1
x Legal Affairs Annual Lecture - admit 1
£0.00
Total Price
£0.00