Mae gwaith Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru wedi’i wreiddio’n gadarn yn nhreftadaeth hir Cymru o ryngwladoldeb ar lawr gwlad, a’r gwaith o warchod Teml Heddwch ac Iechyd genedlaethol Cymru.
Sefydlwyd y Deml yn 1938 fel cofeb Cymru i’r rhai a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac fe’i hagorwyd ar drothwy’r Ail Ryfel Byd. Cafodd ei hadeiladu i greu cenhadaeth genedlaethol i annog Cymru i adeiladu byd gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – drwy Gynghrair y Cenhedloedd, y Cenhedloedd Unedig a chydweithio rhyngwladol.
Mae dysgu o’n treftadaeth ac adeiladu arni yn dal mor berthnasol ag y bu erioed.