Partneriaethau Byd-eang
“Rwyf wedi ennill mwy o ddealltwriaeth o sut i wrando ar y rheiny sydd mewn angen, a chyfeirio at eu problemau mewn ffordd dderbyniol”
Rydym ni’n cefnogi partneriaethau byd-eang sy’n cryfhau Cymru fel cenedl sy’n edrych allan ar y byd a chenedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang. Rydym yn cefnogi cyfeillgarwch rhyngwladol a chydweithrediad ar y cyd, ac rydym yn cydlynu a chryfhau gweithgarwch datblygu rhyngwladol Cymru. Rydym am i bobl yng Nghymru ymfalchïo yn eu cysylltiadau â gweddill y byd ac i gael eu cydnabod am hynny.