Mae yna gysylltiad agos rhwng hanes WCIA a hanes yr adeilad sy’n bencadlys iddi: y Deml Heddwch, yng nghanolfan ddinesig Caerdydd.
Sefydlwyd y WCIA ym 1973, tra bod hanes CEWC ac UNA Cymru (sydd bellach yn rhan o’r un elusen) yn ymestyn yn ôl i’r 1940au. Trwy gydol yr amser hwnnw, mae diben cyffredinol ein gwaith wedi aros yr un fath: cael pobl i feddwl, siarad, a gweithredu ar faterion byd-eang pwysig. Mae ein dulliau dros wneud hynny, wrth gwrs, wedi esblygu dros y blynyddoedd, ac rydym wedi gweld rhai llwyddiannau nodedig: –
- Cyfrifoldeb dros Ymgyrch Rhyddid rhag Newyn y DU yn y 1970au, sy’n gweinyddu prosiectau mawr yn India ac Affrica
- Codi arian ar gyfer Dolen Cymru-Lesotho, a arweiniodd yn ddiweddarach at sefydlu Dolen Cymru
- Croesawu gwesteion lefel uchel, gan gynnwys ymweliadau cyntaf Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig i Gymru (1983) a’r Archesgob Desmond Tutu (2012)
- Cynnal Pencampwriaethau Dadlau Ysgolion y Byd ym 1995 a 2006
- Cynnwys dros 200,000 o bobl ifanc o Gymru mewn digwyddiadau a gweithgareddau sydd â ffocws byd-eang
- Cyflawni prosiectau mawr ar Gymru a Rhyfel Cartref Sbaen, addysg dinasyddiaeth fyd-eang, a’r dull Addysgu Athroniaeth i Blant
Mae yna gysylltiad agos rhwng hanes WCIA a hanes yr adeilad sy’n bencadlys iddi: y Deml Heddwch, yng nghanolfan ddinesig Caerdydd.
1938-1973
Mawr, hi oedd yn cynrychioli mamau galarus Cymru. Rhoddodd yr Arglwydd Davies o Landinam £60,000 tuag at y gost o £72,000, gyda £12,000 yn dod o gronfa’r King Edward VII Welsh National Memorial Association, a sefydlwyd gan yr Arglwydd Davies ym 1912 gyda’r nod o ddileu’r ddarfodedigaeth yng Nghymru.
Yn anffodus, wedi archwiliad pelydr-x seremonïol yn un o’r fflyd o faniau yr oedd yr Arglwydd Davies wedi eu darparu i gynnal profion radiograffeg torfol yn erbyn y ddarfodedigaeth, gwelwyd ei fod yn dioddef rhag salwch angheuol, a bu farw ar 16 Mehefin 1944.
Adeiladwyd y Deml Heddwch gan yr Arglwydd Davies i fod yn gartref i Gymdeithas y Brenin Edward VIIfed, a hefyd i fod yn ganolbwynt ac yn symbol o ddymuniad y Cymry am weld heddwch rhwng y cenhedloedd. Felly daeth yn gartref i Undeb Cynghrair y Cenhedloedd (y League of Nations Union), corff gwirfoddol oedd yn cefnogi gwaith y Gynghrair ym maes heddwch byd-eang.
Er i’r Undeb dderbyn cefnogaeth eang, roedd yn simsan yn ariannol; ac ni wnaeth ei olynydd wedi’r Ail Ryfel Byd, Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig (UNA) Cymru, fawr gwell. Teimlai cefnogwyr y gwaith oedd yn digwydd yn y Deml Heddwch bod yn rhaid unioni’r sefyllfa, gan fod UNA Cymru yn brin o aelodau ac o arian. Câi anhawster i ddarparu’r arweiniad angenrheidiol ar gyfer ymateb Cymru i ymgyrchoedd pwysig, fel y Flwyddyn Cydweithredu Ryngwladol ym 1965 a’r Flwyddyn Hawliau Dynol Ryngwladol ym 1968. Daeth y syniad o ffurfio ‘Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru’ (WCIA) i fod.
Ym 1968 dywedodd erthygl olygyddol yn y Western Mail bod y syniad hwn yn un “cyffrous a diddorol” ac y byddai’n “annog y Cymry i edrych y tu hwnt i ffiniau Cymru a Phrydain, gan ymestyn eu dealltwriaeth a’u gwybodaeth am weddill y byd”. Ym 1970 mabwysiadwyd cynnig ffurfiol i greu WCIA gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru ar y pryd, George Thomas AS (Is-iarll Tonypandy wedi hynny) i nodi pum mlwyddiant ar hugain y CU. Daeth y cyrff oedd yn rhan o bwyllgor y dathlu – y Swyddfa Gymreig, yr awdurdodau lleol, Prifysgol Cymru a’r colegau addysg, ASau, aelodau o’r undebau llafur, diwydianwyr, yr eglwysi, pleidiau gwleidyddol, y cyfryngau a chyrff gwirfoddol – yn aelodau o Gynhadledd Sefydlog WCIA, gan gynyddu felly’r amrywiaeth o gyrff oedd yn gysylltiedig â’r Deml Heddwch.
Agorwyd WCIA yn swyddogol ar 11 Hydref 1973 gan Arglwyddes Tweedsmuir, Gweinidog Gwladol yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
Dywedodd Hywel Francis, AS dros Aberafan, un tro yn Nhŷ’r Cyffredin:
Bu Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru… yn gwneud gwaith holl-bwysig ers degawdau. Mae angen i ni yng Nghymru wrando ar ei llais tawel, addysgiadol sy’n sôn am oddefgarwch a rheswm a’i werthfawrogi yng Nghymru a thu hwnt. Mae’n haeddu ein cefnogaeth lawn a dylem fod yn falch o’i gwaith
Sefydlwyd y WCIA ym 1973, tra bod hanes CEWC ac UNA Cymru (sydd bellach yn rhan o’r un elusen) yn ymestyn yn ôl i’r 1940au. Trwy gydol yr amser hwnnw, mae diben cyffredinol ein gwaith wedi aros yr un fath: cael pobl i feddwl, siarad, a gweithredu ar faterion byd-eang pwysig. Mae ein dulliau dros wneud hynny, wrth gwrs, wedi esblygu dros y blynyddoedd, ac rydym wedi gweld rhai llwyddiannau nodedig:
- Cyfrifoldeb dros Ymgyrch Rhyddid rhag Newyn y DU yn y 1970au, sy’n gweinyddu prosiectau mawr yn India ac Affrica
- Codi arian ar gyfer Dolen Cymru-Lesotho, a arweiniodd yn ddiweddarach at sefydlu Dolen Cymru
- Croesawu gwesteion lefel uchel, gan gynnwys ymweliadau cyntaf Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig i Gymru (1983) a’r Archesgob Desmond Tutu (2012)
- Cynnal Pencampwriaethau Dadlau Ysgolion y Byd ym 1995 a 2006
- Cynnwys dros 200,000 o bobl ifanc o Gymru mewn digwyddiadau a gweithgareddau sydd â ffocws byd-eang
- Cyflawni prosiectau mawr ar Gymru a Rhyfel Cartref Sbaen, addysg dinasyddiaeth fyd-eang, a’r dull Addysgu Athroniaeth i Blant
Mae’r WCIA heddiw yn deillio o’r llwyddiannau hyn, gwaith ein tîm, a chyd-destun y byd fel y mae yn awr (gweler isod). Yr hyn sydd wedi dod i’r amlwg yw sefydliad sydd â nifer o gryfderau penodol:
- Mae gennym werthoedd rhyngwladolaidd ond rydym yn benderfynol amhleidiol, sy’n ein gwneud yn fforwm ‘diogel’ ar gyfer y cyhoedd, llywodraethau, busnesau ac ysgolion
- Rydym yn gweithio ar draws sbectrwm eang o faterion rhyngwladol, sy’n cynnwys tlodi, heddwch a chyfiawnder, cynaliadwyedd a hawliau dynol
- Rydym yn darparu cymysgedd iach o wasanaethau craidd a phrosiectau uchelgeisiol
- Rydym yn gysylltiedig â llawer o sefydliadau eraill sydd â ffocws byd-eang , ac wedi ffurfio partneriaethau cryf gydag ysgolion, prifysgolion ac elusennau eraill
- Mae gennym hanes hir o lwyddiant yn ein gwaith addysgol
- Rydym yn rheoli ased hanfodol yn y Deml Heddwch ac Iechyd, gan groesawu sefydliadau eraill a darparu lleoliad ar gyfer llawer o ddigwyddiadau allanol
- Mae gennym frand unigryw a phresenoldeb ar-lein o safon uchel
Find out below about some of the people who have supported the WCIA over the years.