Sefydlwyd Deml Heddwch ac Iechyd pydferth ac unigryw Cymru fel cofeb i feirw Cymreig y Rhyfel Byd Cyntaf gan David Davies. Bu Davies yn gwasanaethu yn y ffosydd ac yno roedd wedi arswydo gan ddinistr rhyfel. Agorodd y Deml yn 1938 – yn fuan cyn ddechrau’r Ail Ryfel Byd – gan famau oedd mewn profedigaeth, wedi eu arwain gan Minnie Jones o Ferthyr. Bydd y Deml yn mynd ymlaen i chwarae rhan allweddol yn sefydliad y Cenhedloedd Unedig, fframweithiau Hawliau Dynol a sefydliadau rhyngwladol cyfiawnder a chydweithrediad.
Mae hi’n parhau ei genhadaeth yn ffurf Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru hyd heddiw, trwy ein gwaith ar Ddysgu Byd-eang, Gweithredu, a Phartneriaethau. Mae ein gwaith yn cael ei gefnogi’n helaeth gan logi’r lleoliad – a fe fedrai’r Deml Heddwch fod yn leoliad canol dinas hynod symbolaidd a chofiadwy i’ch digwyddiadau chi, pe bai gynadleddau, priodasau neu hyd yn oed lle i saethu ffilm neu photograffiaid. Dewch i weld ein ‘lleoliad â chalon’, yng nghanol prifddinas Cymru.