Elined Prys, Peace Delegate: Retrospective (Aberystwyth & Online)

Elined Prys, Peace Delegate: Retrospective (Aberystwyth & Online)

When

03/10/2025    
5:00 pm - 7:00 pm

Where

Elined Prys, Peace Delegate: Her Life and Legacy

Friday 3rd October 2025 5:00PM

@ Llyfrgell Genedlaethol Cymru | The National Library of Wales, Ceredigion, SY23 3BU

Cofrestru

Sgwrs gan Susan Davies Sit ac Ellen Walker Siuta i ddathlu un o’r digwyddiadau pwysicaf yn hanes menywod Cymru: yr apêl heddwch a’r ddeiseb a anfonwyd gan fenywod Cymru at fenywod yr Unol Daleithiau ym 1924 ac i nodi agoriad arddangosfa Heddychwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae Susan ac Ellen yn aelodau o grŵp Heddwch Nain/Mam-gu UDA sydd wedi gweithio’n ddi-baid i adrodd hanes Deiseb Heddwch Menywod Cymru. Byddant yn rhannu hanes y Ddeiseb ond y ffocws fydd taflu goleuni newydd ar Elined Prys, un o’r tair menyw a ddewiswyd i wasanaethu fel cenhadon ar gyfer Apêl Heddwch Menywod Cymru.

Mae ymchwilwyr modern wedi gallu dysgu llawer am y ddwy gynrychiolydd arall, Annie Hughes Griffiths a Mary Ellis, ond roedd Elined yn fwy o ddirgelwch tan yn ddiweddar. Diolch i haelioni teulu Elined a rhoddion ariannol, maent wedi darganfod nifer o lythyrau personol a ysgrifennwyd gan Elined at ei theulu yn ystod y blynyddoedd tyngedfennol ar ôl y rhyfel, rhwng 1919 a 1924.

Bydd y sgwrs yn defnyddio’r llythyrau hynny a gwybodaeth arall i ystyried pam y dewiswyd Elined i wasanaethu fel cennad heddwch dros Gymru. Nod Susan ac Ellen yw creu darlun o Elined fel menyw o ddeallusrwydd a ffraethineb, a oedd yn meddu ar ewyllys gref ac empathi rhyfeddol.

Cafodd Susan Davies Sit ei geni’n Fae Colwyn a symudodd yn ei ugeiniau hwyr dramor i weithio yn y diwydiant Ysbytai a Lletygarwch. Mae hi bellach yn byw gyda’i theulu yn Connecticut, UDA. Yn ei hymddeoliad mae’n aelod o Heddwch Nain/Mam-gu UDA, yn Llywydd ar Gymdeithas Gymreig Gorllewin Lloegr Newydd, ac yn aelod o dîm Cymdeithas Madog, sefydliad dysgu Cymraeg yn America.

Cafodd Ellen Walker Siuta ei geni yng Nghricieth a symudodd i’r Unol Daleithiau ym 1980. Mae hi wedi teithio gyda’i theulu dramor ac yn yr UDA, ac mae bellach yn byw yn Leesburg, Virginia. Mae hi’n athrawes a chyfarwyddwr wedi ymddeol ac yn aelod o Heddwch Nain/Mam-gu UDA a Chymdeithas Gymreig Washington DC.

Digwyddiad drwy gyfrwng y Saesneg.