Pabell Heddwch @ Eisteddfod Genedlaethol 2025, Wrecsam

Pabell Heddwch @ Eisteddfod Genedlaethol 2025, Wrecsam

When

02/08/2025 - 09/08/2025    
All Day

Where

Wrecsam | Wrecsam
Map

Wefan Eisteddfod Genedlaethol

Map y Maes – Y Babell Heddwch @ Stondin 220-221

#Hiroshima80 – Dydd Mercher 6 Awst 2025

Hoffai Academi Heddwch a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru eich gwahodd i ddau ddigwyddiad arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol 2025 i nodi 80 mlynedd ers Hiroshima, a phwysigrwydd coffau ar gyfer gweithredu cyfoes dros heddwch.

11am – 11:40am @ Pabell Heddwch

Cofio, Cofio, Cofio: sgwrs rhwng Cian Ciarán a Catharine Nagashima gyda Dirprwy Gadeirydd Academi Heddwch, Jill Evans. Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael.

Byddwn yn cerdded o’r Babell Heddwch i Gerrig yr Orsedd

12:00pm @ Cerrig yr Orsedd a’r Pafiliwn: munud o dawelwch

 12:01pm:

Hibakusha: ymunwch â ni ar gyfer dechrau première gosodiad sain Cian Ciarán fydd yn talu teyrnged i’r sawl a fu farw a’u teuluoedd yn nhrychineb Hiroshima. Bydd y gosodiad yn para chwe awr (12:01-6pm), gan gofnodi’r amser a gymerodd i awyren yr Unol Daleithiau, yr Enola Gray, gyrraedd Hiroshima. Mae’n wahoddiad i wneud ein myfyrdodau tawel ein hunain ar heddwch yng nghalon seremonïol y Maes.