Artistiaid Preswyl

Ar gyfer dathliadau’r Deml yn 80 ym mis Tachwedd 2018, treialodd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ein rhaglen ‘Artistiaid Preswyl’ gyntaf erioed gyda’r nod o ddennu cyfraniadau gwahanol, creadigol a newydd i’r arddangosfa Teml80, y profiad ymwelwyr a’r rhaglen ddigwyddiadau. Roedd yn brofiad cadarnhaol iawn, ac yn un y byddai Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn awyddus i’w harchwilio eto pe bai cyfleoedd ariannu yn dod i’r fei.

Cydweithio celfyddydol gyda Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru

Er nad yw Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, sy’n elusen fach, mewn sefyllfa i gynnig arian na chomisiynu gweithiau celf, rydyn ni’n croesawu cyfleoedd i gefnogi a chydweithio gydag artistiaid o Gymru sy’n ceisio archwilio materion yn ymwneud â rhyfel, heddwch a rhyngwladoldeb. Cysylltwch â cymrudrosheddwch@wcia.org.uk

Jon Berry gyda’r Dorch Pabïau a grewyd gan Hazel Elstone ar gyfer y Gwasanaeth Coffa i Bobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Rhaglen ‘Artistiaid Preswyl’ Teml80, hydref 2018

Bu i Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru lunio brîff yn ystod haf 2018 ar gyfer ‘Artist Preswyl’, a recriwtiodd / comisiynodd y cyfansoddwr ifanc, Jon Berry, o Borthcawl. Cyfansoddodd Jon osodiad seinwedd i gyd-fynd â’r arddangosfa – gan ymateb yn gerddorol i ofodau’r adeilad – a bu hefyd yn recriwtio a gweithio gyda thîm bychan o artistiaid cyflenwol o wahanol ddisgyblaethau i ychwanegu dyfnder i’r profiad Teml80, gan ysgogi’r gwaith celf canlynol:

  • Cyfansoddodd Jon Berry o Borthcawl dri gosodiad sain, gan uno cerddoriaeth gyda synau dynol o wyth sir yng Nghymru. Cafodd y tri thrac sain eu chwarae ar wahân yn y Cyntedd, y Crypt a Siambr y Cyngor; ond hefyd gyda’i gilydd fel un darn ar gyfer penwythnos WW100.
  • Cydweithiodd Iffy Iwobi  o Gaerdydd / Llundain gyda Jon i berfformio cyfansoddiad 8 munud o hyd o’r enw ‘Ymgynnull’ a gynhyrchwyd yn arbennig ar gyfer y Gwasanaeth Coffa i Bobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ym mis Tachwedd 2018. Roedd y darn yn defnyddio cerddoriaeth Jon a cherddoriaeth Affricanaidd a’r byd i greu teyrnged i’r milwyr a fu farw o’r hen Ymerodraeth Brydeinig, a chafodd ei chwarae ar orsafoedd radio Cymru dros benwythnos y Cadoediad.
  • Fe greodd Will Salter o Benarth y llyfryn ‘Y Llaw sy’n Arwain’ a ffilm fer o ‘daith amgen’ o’r Deml Heddwch oedd yn canolbwyntio ar ymwybyddiaeth ofodol a meddwl amgen – roedd yn boblogaidd iawn gyda phlant!
  • Creodd Ness Owens o Ynys Môn bum cerdd yn ymateb i agweddau ar arddangosfa Cymru dros Heddwch, a gafodd eu hintegreiddio i’r arddangosfeydd yn ddiweddarach.
  • Creodd Hazel Elstone o Gaerdydd / Bryste dorch ffabrig amryliw o Babïau ar gyfer y Gwasanaeth Coffa i Bobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, sy’n parhau i gael ei arddangos fel rhan o’r dehongliad yn y Crypt yn y Deml Heddwch.
  • Perfformiodd Jon Chase  o Bontypridd, rapiwr Affro Caribïaidd, ‘Rap‘ a gafodd ei integreiddio i’r ffilm Teml80 (gweler isod).

Yn ogystal â’r ‘Artistiaid Preswyl’, roedd digwyddiadau creadigol eraill ar gyfer Teml80 yn cynnwys:

  • Lynn Morris o Theatr y Journeymen yn cynhyrchu ac yn perfformio ‘The Bundle’, sef drama yn archwilio hawliau dynol menywod o Chechnya sy’n ffoaduriaid ac sy’n ceisio lloches ym Mhrydain heddiw – trefnwyd hyn ochr yn ochr â Grŵp Amnest Caerdydd ac ategwyd y ddrama gan noson o drafodaeth ar ffoaduriaid a noddfa o dan arweiniad Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru.
  • Arweiniodd Holly Ireland noson gomedi ‘Stand Up for Peace’ sef digwyddiad olaf rhaglen Teml80 i godi calon – lle bu pump comedïwr yn dadansoddi materion yn ymwneud â heddwch yn y gorffennol a’r presennol.