Global STEPS

Map Unavailable

Date/Time
Date(s) - 26/04/2022
12:00 pm - 2:00 pm

Categories


Cofrestrwch yma

Yn yr hyfforddiant hynod ryngweithiol hwn, byddwn yn cyflwyno Global STEPS – adnodd i helpu pobl ifanc i adnabod a hyrwyddo eu sgiliau

Ydych chi’n gweithio neu’n bwriadu gweithio gyda phobl ifanc a/neu wirfoddolwyr ar ddinasyddiaeth fyd-eang neu brofiadau cyfnewid rhyngwladol? Os felly, dewch draw i’r hyfforddiant peilot am ddim hwn.

Mae Global STEPS yn adnodd ar-lein i helpu pobl ifanc i adnabod, gwerthu a gwella’r sgiliau cyflogadwyedd men nhw’n eu datblygu yn ystod profiadau dinasyddiaeth fyd-eang (cyfnewid rhyngwladol, prosiectau undod, prosiectau heddwch neu ffoaduriaid).

Yn yr hyfforddiant peilot hwn, byddwn yn rhoi cynnig ar yr adnodd, ac yna’n edrych yn fwy manwl ar sut y gallwn gefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau trosglwyddadwy yn ystod digwyddiadau gwirfoddoli rhyngwladol a phrofiadau dinasyddiaeth fyd-eang. Bydd cyfleoedd hefyd i rannu syniadau, arbenigedd ac i rwydweithio.

Bydd y sesiwn yn gwbl ryngweithiol. Fel cynllun peilot, byddwn yn adeiladu rhywfaint o amser a gweithgareddau i mewn hefyd i gasglu eich adborth.

Mae’r hyfforddiant hwn yn cael ei ddarparu fel rhan o’r prosiect Raising Capacities ar gyfer y prosiect Global STEPS sydd yn cael ei ariannu gan Erasmus+. Mae’r adnodd yn cael ei dreialu yn Saesneg ym mhob un o’r pedair gwlad partner, cyn i ni gyfuno canlyniadau a gwneud gwelliannau.

Cofrestrwch yma