Date/Time
Date(s) - 14/03/2019
9:30 am - 4:00 pm
Location
Ysgol Glan Y Mor
Categories No Categories
Ydych chi eisiau manteisio i’r eithaf o’ch partneriaethau byd-eang?
Bydd y cwrs rhyngweithiol hwn, sy’n canolbwyntio ar weithredu, yn eich cefnogi chi i:
- ddatblygu perthnasau llwyddiannus gyda’ch partneriaid
- adeiladu tîm cryf
- archwilio effeithiau pŵer a thegwch
- archwilio sut i eiriol dros bersbectifau gwrthdrawiadol
Mae rhan o’r cwrs 6 awr hwn y byddwch yn cymryd rhan ynddo, yn cynnwys cynllunio prosiect i’w gyflwyno yn eich ysgol. Byddwn yn cysylltu â chi ychydig wythnosau ar ôl y cwrs, i weld sut rydych chi’n datblygu.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Athrawon neu staff ysgolion cynradd neu uwchradd sy’n ymwneud â phartneriaethau byd-eang.
Pam cymryd rhan yn y cwrs?
Mae dynameg tîm yn ganolog i bob sefydliad cryf. Pan fydd ysgolion yn cymryd rhan mewn partneriaethau byd-eang, y peth mwyaf pwysig o ran sicrhau perthynas ddysgu gadarnhaol ac effeithiau pwerus ydy cyfathrebu rhagorol a dealltwriaeth gadarn o’r tîm. Bydd y cwrs hwn yn cefnogi ysgolion i ddadansoddi eu tîm ac i archwilio’r ffordd orau i ddefnyddio eu doniau.
Cynnal Partneriaethau Teg a Chynaliadwy? Contact Welsh Centre for International Affairs
Book tickets here: https://www.eventbrite.co.uk/e/l2-maintaining-equitable-and-sustainable-partnerships-cynnal-partneriaethau-teg-a-chynaliadwy-tickets-55331098806