Gwneud i’r Gyfnewidfa Ddysgu Ryngwladol weithio i bob person ifanc yng Nghymru

“Roeddwn i’n teimlo fy mod i’n rhan o rywbeth
arbennig, nad oeddwn i erioed wedi teimlo o’r
blaen….Dysgais am barch, dysgais am deyrngarwch.
Dysgais am lawer o bethau nad oeddwn i’n meddwl
oedd erioed yn bodoli pan oeddwn i’n blentyn…pe
bawn i ddim wedi mynd, mae’n debyg y byddwn i wedi
marw neu yn y carchar. “

Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i lansio’r Gyfnewidfa Ddysgu Ryngwladol (ILE) yn golygu na fydd profiadau newid bywyd a alluogir gan Erasmus + a chyllid Corfflu Undod Ewrop (ESC) yn cael eu colli i Gymru.
Amlygodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bwysigrwydd addysg a dysgu heb fod yn ffurfiol ynghyd â gwirfoddoli fel rhywbeth hanfodol, ochr yn ochr ag astudio a lleoliadau gwaith, i ehangu gorwelion ac ehangu sgiliau allweddol. Mae gwirfoddoli i sefydliad lleol, dielw yn arbennig o bwysig fel porth amgen i’r rhai sydd ddim yn dilyn gyrfaoedd trwy addysg uwch ac mae’n sylfaen hanfodol i ILEP ddod yn rhaglen gynhwysol ledled Cymru.
I bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig sy’n ei chael hi’n anodd cyflawni fel arall, mae natur agored gwirfoddoli sy’n gwerthfawrogi cyfraniad a chyfranogiad ar bob lefel, yn darparu lle i bawb i gyflawni. Cyflwynir y cyfleoedd trwy ddysgu trwy brofiad gan adeiladu canlyniadau allweddol fel gwytnwch, hyder
a sgiliau perthynas.

Loader Loading...
EAD Logo Taking too long?

Reload Reload document
| Open Open in new tab

Download

people holding hands