Monthly Archives: April 2025

Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025

Ddeng mlynedd ers ei chychwyn, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn fwy amlwg ond nid yw’n ysgogi’r newid system gyfan a fwriadwyd.

Rydym yn gweld enghreifftiau da, ond rydym hefyd yn gweld achosion lle nad yw cyrff cyhoeddus wedi rhoi rhyw lawer o ystyriaeth benodol os o gwbl i’r Ddeddf.

Mae cyflymu cynnydd yn dechrau â blaenoriaethu atal; a chreu’r amodau cywir i’r Ddeddf gydio a ffynnu

Mae a wnelo’r adroddiad hwn â sut y mae cyrff cyhoeddus Cymru’n meddwl ac yn gweithredu ar gyfer yr hirdymor. Yn benodol, mae a wnelo â sut y mae cyrff cyhoeddus yn gwneud yr hyn y maeDeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei wneud ar adeg pan fo cynaliadwyedd a fforddiadwyedd hirdymor gwasanaethau ac ymrwymiadau polisi’r Llywodraeth yn cael eu profi.

Dros y 10 mlynedd y mae’r Ddeddf wedi bod ar waith mae’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus wedi tyfu. Os mai’r Ddeddf yw ateb Cymru i’r heriau mawr, mae angen ei rhoi ar waith yn dda. Dylai’r Ddeddf gyffwrdd â phob agwedd ar waith cyrff cyhoeddus. Mae a wnelo â llywio newid yn yr hyn y mae cyrff cyhoeddus yn ei wneud a sut y maent yn ei wneud.

Canfuom amrywiad mewn ymarfer o fewn sefydliadau, ac o fewn a rhwng sectorau. Mae gan y system iechyd yn arbennig rywfaint o ffordd i fynd o ran cymhwyso ffordd o feddwl sy’n rhoi sylw i genedlaethau’r dyfodol ar draws ei gweithgarwch cynllunio a chyflawni.

Mae cyflymu cynnydd dan y Ddeddf yn dechrau â blaenoriaethu atal. Heb newid mwy systematig tuag at atal, bydd cyllidebau’n cael eu disbyddu, ac mae’n debygol y bydd deilliannau’n waeth. Mae angen hefyd i gyrff cyhoeddus wella’r wybodaeth y maent yn ei defnyddio i oleuo prosesau cynllunio a phenderfynu, cael gwell gafael ar y goblygiadau o ran adnoddau, a gwneud yn siŵr eu bod yn gallu deall effaith. Ac mae cryn dipyn i’w wneud o hyd i gymhwyso’r Ddeddf i swyddogaethau megis cynllunio’r gweithlu, rheoli asedau, a chynllunio ariannol.

Bydd cyflawni newid yn galw am weithredu gan yr holl gyrff cyhoeddus yn unigol. Ond ni fydd hynny’n ddigon. Maent yn gweithio mewn amgylchedd nad yw wastad yn hybu’r newid hwnnw. Ceir camau gweithredu y gallai’r Llywodraeth eu cymryd i greu’r amodau ar gyfer cynnydd.

Yn 2020, fe alwom ni am adolygiad o’r Ddeddf i archwilio sut y gallai rhwystrau i’w rhoi ar waith gael eu goresgyn a sut y gallai Cymru ddal i fod ar flaen y gad o ran camau gweithredu i wella llesiant. Bum mlynedd yn ddiweddarach, ni weithredwyd ar yr argymhelliad hwnnw yn y ffordd yr oeddem wedi gobeithio.

Rydym wedi cyflwyno argymhellion i gyrff cyhoeddus unigol trwy’r gwaith archwilio y mae’r adroddiad hwn yn adeiladu arno. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno pedwar argymhelliad pellach. Argymhellion strategol i Lywodraeth Cymru ydynt, a ddyluniwyd gyda’r amodau ehangach ar gyfer cynnydd mewn golwg. Maent yn galw ar y Llywodraeth i leihau i’r eithaf yr ansicrwydd ynghylch cyllid i helpu cyrff i gynllunio’n effeithiol ac i roi anogaeth i fuddsoddi mewn atal. Maent hefyd yn galw ar y Llywodraeth i fwrw golwg o’r newydd ar yr asesiad o berfformiad ac effaith dan y Ddeddf ac i nodi’n glir cwmpas ac amserlen ar gyfer ei werthusiad ei hun o’r Ddeddf yng nghyd-destun craffu ehangach.

Rydym yn gobeithio y gall yr adroddiad hwn gyfrannu at sgwrs ehangach ynglŷn â sut y mae cyrff cyhoeddus yn cymhwyso’r Ddeddf i gael effaith wirioneddol a pharhaus. Rhaid i bawb sydd mewn rolau craffu chwarae eu rhan i gydnabod arfer da a mynnu gwelliant pan nad yw cyrff yn gwneud digon.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton: 

“Ddeng mlynedd ers ei chychwyn, rwy’n gweld egni a brwdfrydedd dros y Ddeddf mewn mannau amrywiol; ac rwy’n gweld cyrff cyhoeddus yn cael sgyrsiau gwahanol, yn gwneud penderfyniadau a oleuir gan y Ddeddf, a newidiadau mewn ymarfer. Ond er yr holl enghreifftiau da, ceir y rhai nad ydynt mor dda. Nid yw’r Ddeddf yn ysgogi’r newid system gyfan a fwriadwyd.

Wrth gwrs, mae llywio newid ar draws sefydliadau sy’n aml yn fawr ac yn gymhleth yn anodd. Ond erfyniaf ar gyrff cyhoeddus i weld yr egwyddor datblygu cynaliadwy fel mater o werth am arian. Ni allwn fforddio dylunio datrysiadau nad ydynt yn diwallu anghenion pobl, llethu cenedlaethau’r dyfodol â chostau uwch y gellir eu hosgoi, na cholli cyfleoedd i gyflawni mwy â’r un faint neu â llai.”

hi

Recruiting – Senior Fundraising Manager and WCIA Board of Trustees

Looking to ‘Spring Clean’ your career, land that dream job, or get involved with an enriching trusteeship challenge? This March / April WCIA are recruiting a new Senior Fundraising Manager role, as well vacancies on WCIA’s sector-leading Board of Trustees.

Find ouit more at:

Temple Friends Peace Gardening Bee, June 2024 with WCIA Staff, Trustees and Volunteers
hi

Apêl Daeargryn Myanmar DEC

dydd Iau 3ydd o Ebrill, WCIA: Fel un o aelodau gwerthfawr o rwydwaith DEC Cymru, byddwn yn lansio apêl codi arian brys ar gyfer y bobl ym Myanmar sydd wedi eu heffeithio gan y daeargrynfeydd difrifol.

Y daeargrynfeydd  

Dyma’r daeargrynfeydd cryfaf i daro’r wlad ers degawdau, gyda dirgryniadau mor bwerus nes bod difrod wedi ei wneud yng Ngwlad Thai a Tsieina, gannoedd o filltiroedd i ffwrdd.   Mae dros 2,800 o bobl wedi eu lladd ers y daeargryn ac mae disgwyl i’r rhif hwn godi eto. Mynediad cyfyngedig iawn sydd i newyddiadurwyr o fewn y wlad, ac mae’r gwasanaethau cyfathrebu wedi eu heffeithio yn fawr.  Roedd Myanmar eisoes yn wynebu argyfwng dyngarol difrifol gyda thraean o’r boblogaeth  angen cymorth dyngarol. Nawr mae’r sefyllfa yn drychinebus.    

Yr ymateb dyngarol   

Er yr heriau niferus, mae elusennau’r DEC yn barod. Mae arweinwyr milwrol Myanmar wedi datgan stad o argyfwng ac wedi gwneud cais prin am gymorth dyngarol rhyngwladol. 

Wedi blynyddoedd o weithio ym Myanmar, mae elusennau’r DEC eisoes ar lawr wlad yn y cymunedau sydd wedi eu heffeithio, ac mae ganddynt berthnasau cryf eisoes gyda phartneriaid lleol o fewn y cymunedau hyn. Maent nawr angen rhagor o arian ar frys er mwyn cynyddu eu gwaith a chyrraedd y rhai mwyaf bregus.  

Sut y gallwch gefnogi’r apêl  

  • Cyfrannu at yr apêl: plîs ystyriwch gyfrannu ar yr apêl. Mae angen cymorth ar frys: https://www.dec.org.uk/appeal/myanmar-earthquake-appeal
     
  • Cyfathrebu Mewnol: plîs rhannwch y wybodaeth am yr apêl gyda’ch staff ac unrhyw gysylltiadau neu rwydweithiau mewnol. Gellir rhannu negeseuon yn uniongyrchol o sianeli DEC Cymru: Facebook | Twitter  | Bluesky 
  • Bydd adnoddau pellach – gan gynnwys posteri, dyluniadau a phecyn cyfryngau cymdeithasol ar gael dros y dyddiau nesaf ar ein Hwb Partneriaid Allanol

Bydd Llywodraeth y DU yn rhoi arian cyfatebol punt-am-bunt hyd at £5 miliwn a roddwyd gan y cyhoedd i’r apêl hon. Rhowch nawr.

hi