Diolch i’n gwirfoddolwyr brwd, rydym ni nawr yn agos at gyrraedd 200,000 o enwau wedi’u trawsgrifio! Mae croeso mawr i unrhywun ein hymuno yn yr ymdrech i gyflawni’r can mil nesa . . .
Diddordeb mewn trawsgrifio enwau’r ddeiseb, ond yn ansicr ble i ddechrau?
Rydym ni wedi trefnu cyfres newydd o sesiynau ar lein ar gyfer yr haf, gyda chynrychiolwyr o’n tîm ymgysylltu. Gallwch weld yr amserlen fan hyn:
Bydd y sesiynau yn cynnig cyflwyniad i’r platfform, yn helpu gydag unrhyw broblemau sy’n codi wrth gofrestru neu yn cyfle i chi ofyn cwestiynau wrth ddechrau ar y gwaith. Mae croeso i chi ddod i gymaint â sesiynau ac sydd angen arnoch i deimlo’n hapus i fwrw mlaen.
Os hoffech roi cynnig arni cyn i’r sesiynau i ddechrau, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau o gwbl, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy ddefnyddio’r e-bost post@academiheddwch.cymru, a gallwn ddanfon y ddolen i chi gael cofrestru.
Mae hefyd gennym fideo gallai fod o help i chi:
Fersiwn Saesneg: https://youtu.be/RCHDxwkd_WA
Fersiwn Cymraeg: https://youtu.be/craqwvBAYxA
Os ydych yn cofrestru, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y canllawiau cam wrth gam a’r Cwestiynau Cyffredin sydd ar y platfform yn ofalus cyn i chi ddechrau, gan y bydd hyn yn arbed problemau yn nes ymlaen.
Amdani! Ymlaen at y 200,000 a thu hwnt!