Date/Time
Date(s) - 21/09/2022
4:30 pm - 6:00 pm
Categories
Sut i archwilio materion mewn ffyrdd sensitif sydd yn galluogi dysgwyr i greu newid
Rhyfeloedd yn Ewrop a rhannau eraill o’r byd, pryderon am newid yn yr hinsawdd a sut mae ffoaduriaid yn cael eu trin – sut allwn ni ddelio â materion fel y rhain fel bod pobl ifanc yn wybodus ond ddim yn cael eu gorlethu, yn gallu gweld pethau o wahanol safbwyntiau ac yn teimlo eu bod yn gallu gweithredu fel dinasyddion moesegol, gwybodus i wneud gwahaniaeth?
Yn y sesiwn HMS ar-lein rhad ac am ddim hon, byddwn yn edrych ar enghreifftiau o sut mae ysgolion wedi delio â materion dadleuol, gan alluogi eu dysgwyr i gaffael gwybodaeth o wahanol ffynonellau, trafod gwahanol safbwyntiau yn barchus, a gweithredu dros newid.
Bydd cyfranogwyr yn clywed gan gydweithwyr sydd wedi datblygu prosiectau yn eu hysgolion, yn dysgu am adnoddau rhad ac am ddim a mentrau a all eu cefnogi ac yn cael amser mewn grwpiau llai i drafod llwyddiannau a heriau wrth ymdrin â materion dadleuol.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu ar y cwrs hwn!