Date/Time
Date(s) - 02/11/2018
6:30 pm - 8:30 pm
Location
Temple of Peace and Health
Categories No Categories
Bu i’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd gipio bywydau miloedd o bobl o wledydd yr hen Ymerodraeth Brydeinig, o Affrica, y Caribî, India ac Asia, a frwydrodd yn enw’r Deyrnas Unedig. Prin y mae rhain yn weladwy mewn digwyddiadau Coffa, ond yn y digwyddiad hwn bydd Llywodraeth Cymru a’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn rhoi cydnabyddiaeth ffurfiol ac yn dweud ‘Diolch’ am gyfraniad, a cholled, cymunedau rhyngwladol Cymru – yng nghofeb eiconig Cymru i’r Rhyfel Byd Cyntaf, y Deml Heddwch. Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn edrych ymlaen at groesawu disgynyddion cyn-filwyr duon a lleiafrifoedd ethnig o Gymru sydd wedi gwasanaethu, gyda Gweinidog o Lywodraeth Cymru, i’r digwyddiad coffa hwn dan arweiniad Cyngor Hil Cymru.
Cyngor Hil Cymru / Mis Hanes Pobl Dduon gyda’r Lleng Brydeinig Frenhinol, wedi’i gefnogi gan Llywodraeth Cymru
https://www.eventbrite.co.uk/e/remembrance-service-for-wales-ethnic-servicemen-and-women-gwasanaeth-coffa-ar-gyfer-cyn-filwyr-duon-tickets-50612355919