Hyfforddiant – datblygu sgiliau pobl ifanc drwy ddinasyddiaeth fyd-eang

Map Unavailable

Date/Time
Date(s) - 08/12/2021
10:00 am - 4:00 pm

Categories


Ydych chi’n gweithio neu’n bwriadu gweithio gyda phobl ifanc a/neu wirfoddolwyr ar ddinasyddiaeth fyd-eang neu brofiadau cyfnewid rhyngwladol? 

Os felly, dewch draw i’r hyfforddiant peilot am ddim hwn!

Mae Global STEPS yn adnodd ar-lein i helpu pobl ifanc i adnabod, gwerthu a gwella’r sgiliau cyflogadwyedd men nhw’n eu datblygu yn ystod profiadau dinasyddiaeth fyd-eang (cyfnewid rhyngwladol, prosiectau undod, prosiectau heddwch neu ffoaduriaid). 

Yn yr hyfforddiant peilot hwn, byddwn yn rhoi cynnig ar yr adnodd, ac yna’n edrych yn fwy manwl ar sut y gallwn gefnogi pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau trosglwyddadwy yn ystod digwyddiadau gwirfoddoli rhyngwladol a phrofiadau dinasyddiaeth fyd-eang. Bydd cyfleoedd hefyd i rannu syniadau, arbenigedd ac i rwydweithio.

Bydd y sesiwn yn gwbl ryngweithiolFel cynllun peilotbyddwn yn adeiladu rhywfaint o amser a gweithgareddau i mewn hefyd i gasglu eich adborth. 

Mae’r hyfforddiant hwn yn cael ei ddarparu fel rhan o’r prosiect Raising Capacities ar gyfer y prosiect Global STEPS sydd yn cael ei ariannu gan Erasmus+. Mae’r adnodd yn cael ei dreialu yn Saesneg ym mhob un o’r pedair gwlad partner, cyn i ni gyfuno canlyniadau a gwneud gwelliannau. 

Yn dibynnu ar bwy sy’n cofrestru a ble maen nhw wedi’u lleoli, byddwn naill ai’n rhedeg y digwyddiad hwn ar-lein, mewn person neu drwy gyfuniad o’r ddau. Cofrestrwch i fynegi diddordeb, a byddwn yn cysylltu ynghylch y logisteg yn nes at yr amser. 

Cofrestrwch yma