Date/Time
Date(s) - 14/06/2022
9:30 am - 12:00 pm
Categories
Eleni nid yn unig y mae COP26 yn cael ei gynnal, y cyfarfod byd-eang pwysicaf ar newid yn yr hinsawdd, ond hefyd COP15, y Confensiwn Bioamrywiaeth. Er mwyn gwneud ein rhaglen MockCOP eleni yn fwy diddorol rydym yn cynnig cyfle i’ch ysgol ddod i gymryd rhan mewn MockCOP gwahanol, y tro hwn am weithredu byd-eang i amddiffyn amrywiaeth fiolegol y byd. Gyda WWF yn cefnogi bydd hyn yn cynnig profiad MockCOP gwahanol. Cofrestrwch i ddarganfod mwy.
Beth yw MockCOP?
Bob blwyddyn, mae gwledydd yn ymgynnull i drafod strategaethau ac awgrymiadau byd-eang i daclo newid yn yr hinsawdd. Gelwir hyn yn Gynhadledd y Partïon neu COP. Mae ein digwyddiad MockCOP yn rhoi cyfle i ddisgyblion i geisio MockCOP eu hunain a chael cyfle i ymuno â’n Rhwydwaith Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid, lle mae pobl ifanc yn gweithio gyda’n harbenigwyr i leisio’u barn ar newid hinsawdd!
Neilltuir gwlad i bob ysgol ymchwilio a chynrychioli ar y diwrnod, ac yna gofynnir iddynt anfon dirprwyaeth o dri myfyriwr i gynrychioli eu gwlad yn y gynhadledd. Yn ystod y digwyddiad, byddant yn cynnig penderfyniadau a diwygiadau ac yn trafod safbwynt eu gwlad. Mae MockCOP 2021 ar agor i ddisgyblion ym Mlwyddyn 9-13.
Mae hwn yn gyfle gwych i ddarparu dysgu trawsgwricwlaidd a datblygu ‘dinasyddion moesegol gwybodus Cymru a’r Byd’, tra hefyd yn cefnogi dysgwyr i gael effaith ar fater hanfodol newid yn yr hinsawdd. Bydd y dysgwyr yn:
· Datblygu gwybodaeth am wahanol genhedloedd a’u safbwyntiau
· Dysgu sut mae cydweithredu rhyngwladol a’r Cenhedloedd Unedig yn gweithio
· Datblygu gwybodaeth am faterion byd-eang a sut maent yn gysylltiedig â’i gilydd
· Adeiladu sgiliau siarad a gwrando, ymchwil, trafod, datrys gwrthdaro a chyfaddawdu
· Datblygu empathi a hunanhyder
· Cynllunio prosiectau yn eu hysgolion a’u cymunedau eu hunain ar newid yn yr hinsawdd
Mae MockCOP yn brosiect Maint Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) a ariennir gan Sefydliad ScottishPower.
Eleni, rydym yn gweithio gyda’r Rhwydwaith Rhynghinsawdd i ddatblygu adnoddau newydd gwych i ysgolion gynnal eu fersiynau yn yr ysgol eu hunain o uwchgynhadledd newid yn yr hinsawdd.
Dewch o hyd i’r adnoddau hyn ar wefan WCIA.
[efsbutton size=”” color_class=”” align=”left” type=”link” target=”false” title=”Cofrestrwch yma” link=”https://www.eventbrite.co.uk/e/online-mockcopmockcop-digidol-tickets-376112922877″]
Er mwyn cyflwyno’r prosiect, bydd data cyfranogwyr yn cael ei rannu rhwng y partneriaid a’r cyllidwr.
Darllenwch bolisi preifatrwydd WCIA yma
Darllenwch bolisi preifatrwydd Maint Cymru yma