Mae Teml Heddwch ac Iechyd Cymru yn adeilad gweithredol sy’n gartref i elusennau a mudiadau rhyngwladol sy’n gweithio gyda chymunedau a digwyddiadau ledled Cymru. Rydyn ni’n annog ymwelwyr â’r Deml Heddwch i archwilio’r gofod eiconig hwn drwy ymuno ag un o ddiwrnodau ‘drysau agored’ misol Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru.
I weld manylion Llogi Ystafell/Lleoliad, neu drefnu ymweliadau ‘galw heibio’ i sefydliadau preswyl, sgroliwch i lawr.
Teithiau o’r Deml 2025
- 5 Chwefror 2025
- 5 Mawrth 2025 (Diwrnod Rhyngwladol y Menywod)
- 2 Ebrill 2025
- 7 Mai 2025
- 4 Mehefin 2025
- 2 Gorffenaf 2025
- 6 Awst 2025
- 2 Medi 2025
- 1 Hydref 2025
- 11 Tachwebb 2025 (Dydd y Cofio)
- 26 Tachwedd 2025 (Penblwydd 88 o’r Deml)
- 3 Rhagfyr 2025
Trefnu Gweithdy / Ymweliad Grŵp Pwrpasol
Os hoffech drefnu taith bwrpasol o’r Deml ar gyfer ymweliad grŵp (neu unigolyn), Gweithdy Archifau / ymweliad Ymchwil, gyda chymorth wedi’i hwyluso/arbenigedd wedi’i deilwra, cysylltwch â cymrudrosheddwch@wcia.org.uk i drafod pecynnau posib y gallen ni eu cynnig i chi.
Llogi’r Lleoliad
Os ydych chi’n chwilio am leoliad cofiadwy ar gyfer eich digwyddiad eich hun, edrychwch ar becynnau Llogi Lleoliad y Deml Heddwch, o gyfarfodydd un-i-un i briodasau, cynadleddau a lleoliadau ffilmio.
Gall Teithiau o’r Deml hefyd gael eu cynnig fel dewis ychwanegol i gwsmeriaid sy’n llogi’r lleoliad (yn amodol ar argaeledd staff/gwirfoddolwyr) – trafodwch eich gofynion gyda’r Tîm Lleoliad wrth archebu er mwyn gwybod a ellir trefnu’r profiad unigryw ac ysbrydoledig yma i ategu’ch digwyddiad.
Ymweld â Mudiadau sydd yn y Deml Heddwch
Mae pencadlysoedd y mudiadau canlynol, sy’n gweithio ledled Cymru, wedi’u lleoli yn y Deml Heddwch. Cynghorir ymwelwyr yn gryf i drefnu apwyntiadau galw heibio ymlaen llaw, drwy’r manylion cyswllt canlynol:
- Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru – 029 2022 8549; centre@wcia.org.uk
- Llogi Lleoliad y Deml Heddwch – 029 2082 1052; assistant@wcia.org.uk
- Dolen Cymru – 029 2039 9577; swyddfa@dolencymru.org
- Maint Cymru – 029 2132 0603; info@sizeofwales.org.uk
- Prifysgol Caerdydd – Nid oes unrhyw aelod o staff Prifysgol Caerdydd wedi’u lleoli yn y Deml Heddwch. Dylid cyfeirio ymholiadau yn ymwneud â rheolaeth y Brifysgol o’r adeilad i’r Adran Ystadau.