UN75

Agorwyd Teml Heddwch ac Iechyd Cymru ym mis Tachwedd 1938 – fisoedd yn unig cyn dechrau’r Ail Ryfel Byd a chwalodd obeithion a breuddwydion llawer o bobl, wrth i’r byd wynebu gwrthdaro unwaith yn rhagor, gwta ugain mlynedd ar ôl i “Fyth Eto” fod yn neges Gofio flynyddol. Roedd yn ymddangos bod Treftadaeth Heddwch mudiadau’r dauddegau a’r tridegau dros ryngwladoldeb Cymru wedi cael eu bwrw o’r neilltu.

Cofio Chwyldro Cymdeithasol

Fodd bynnag, pan ddaeth diwedd elyniaeth cafwyd cyfnod o newid cymdeithasol enfawr – wrth sefydlu’r Cenhedloedd Unedig, y Gwasanaeth Iechyd yng ngwledydd Prydain, Siarteri Cyffredinol ar gyfer Hawliau Dynol, a ‘dechrau’r diwedd’ i wladychiaeth wrth i wledydd y byd ddechrau’r daith tuag at annibyniaeth.  Chwaraeodd llawer o ddynion a merched Cymru ran allweddol yn y mudiadau hyn, ac roedd Teml Heddwch ac Iechyd Cymru wrth galon ymgyrchu a a newid cymdeithasol yn ystod y pedwardegau a’r pumdegau.

Allan o Ludw Gwrthdaro – Adeiladu Byd Gwell

Wrth i ni baratoi i nodi 75 ac 80 mlynedd ers nifer o ddigwyddiadau mawr yr Ail Ryfel Byd (rhwng 2019 a 2025), bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn canolbwyntio ar yr hyn a ddilynodd y Rhyfel: yr awydd i adeiladu byd gwell drwy sefydlu’r Cenhedloedd Unedig a siarteri cyffredinol ar gyfer hawliau dynol, sydd wedi bod yn sail i gydfodolaeth heddychlon a datblygiad byd-eang hyd heddiw.

Mae Cymry wedi chwarae rhan bwysig yn stori’r Cenhedloedd Unedig dros y 75 mlynedd diwethaf. Rhwng 2019 a 2024, bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn nodi pen-blwyddi nifer o ddigwyddiadau mawr y Cenhedloedd Unedig drwy archwilio treftadaeth gweithredu Cymru ar hawliau dynol, straeon cymunedol, ymatebion lleol a byd-eang, ac agweddau tuag at hawliau dynol a chydweithrediad rhyngwladol nawr ac i’r dyfodol.

Gweithgareddau Prosiect Treftadaeth Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru

Gan adeiladu ar y rhaglen a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cymru dros Heddwch rhwng 2014 a 2019 – a fu’n nodi canrif ers y Rhyfel Mawr ac yn datgelu hanesion cudd o fudiadau heddwch Cymru yn ystod y blynyddoedd rhwng y Rhyfeloedd (1918-39) – bydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn chwilio am gyllid, partneriaid prosiect ac yn datblygu gwaith gyda grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr i archwilio cyfnod nesaf treftadaeth heddwch rhyngwladol Cymru: cyfnod ‘y Cenhedloedd Unedig’. Ein gobaith yw y bydd gweithgareddau’r prosiect yn cynnwys cyfleoedd i wneud y canlynol:

  • Archwilio, catalogio, digideiddio, dehongli ac agor i’r cyhoedd Archifau’r Deml Heddwch ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a chasgliadau cysylltiedig sy’n cael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol ac mewn mannau eraill.
  • Lle bo’n bosib, casglu hanesion llafar gan gyn-filwyr ac ymgyrchwyr cymdeithasol o’r pumdegau i’r saithdegau, gan ganolbwyntio ar ‘adeiladu byd gwell’ a newid cymdeithasol.
  • Datblygu rhwydweithiau academaidd a lleoliadau ymchwil i fyfyrwyr sy’n archwilio adeiladu heddwch a newid cymdeithasol ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a chanfod gwersi i’w dysgu ar gyfer heddiw.Datblygu prosiectau straeon digidol, newyddiaduraeth gan ddinasyddion ac ysgrifennu creadigol sy’n dod â hanes cudd yn fyw, sy’n ysbrydoli ymgyrchwyr ac ysgogwyr newid heddiw, ac sy’n sail i brosesau llunio polisïau.
  • Datblygu celfyddydau cymunedol ac ymatebion creadigol, a chynnig llwyfannau i’w harddangos/rhannu gyda chynulleidfaoedd cyhoeddus mewn ffordd sy’n ysbrydoli sgyrsiau am herio materion cyfoes y byd fel Brexit, Newid yn yr Hinsawdd, cynhwysiant cymdeithasol a chydraddoldeb, a Hawliau Dynol.
  • Datblygu Arddangosfeydd Teithiol sy’n ysgogi prosiectau hanesion cudd, sgyrsiau cymunedol a meddwl beirniadol am ran Cymru yn y byd, o safbwynt cymunedau penodol (daearyddiaeth a chymunedau buddiant).
  • Datblygu Gwaddol Digidol o’r holl ddeunyddiau, straeon a gweithgareddau prosiect am dreftadaeth, sydd ar gael yn rhwydd ac sy’n ysbrydoli cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
  • Datblygu Deunyddiau Dysgu a phrosiectau Dosbarth/Ysgol sy’n cynorthwyo athrawon i gyflwyno’r Cwricwlwm newydd drwy ddefnyddio rhyngwladoldeb Cymru.
  • Hwyluso Gwobrau Heddychwyr Ifanc a Chynadleddau Ieuenctid/Ysgolion sy’n galluogi rhannu dysgu rhwng rhwydweithiau o bobl ifanc, athrawon a llunwyr polisïau.
  • Seilio datblygiad a chyflawniad Strategaeth Ryngwladol Cymru, mewn gwybodaeth a dealltwriaeth ddyfnach o dreftadaeth Rhyngwladolaidd Cymru.

Nodi Digwyddiadau Pwysig

Mae’r tabl isod yn nodi rhai o’r dyddiadau arwyddocaol o’r ‘oes adeiladu heddwch’ ar ôl yr Ail Ryfel Byd y mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn gobeithio eu nodi rhwng 2019 a 2024 – ac ennyn ysbrydoliaeth o’n gwaith gyda chymunedau a grwpiau cymdeithas sifil i archwilio sut mae’r materion hyn yn dal i fod yn berthnasol, a sut y gall pobl weithredu heddiw.

Dyddiadau Arwyddocaol o’r Ail Ryfel Byd

80 Mlynedd ers dechrau’r Ail Ryfel Byd 3 Medi 1939 3 Medi 2019 (80)
“D-Day” 6 Mehefin 1944 6 Mehefin 2019 (75)

6 Mehefin 2024 (80)

Rhyddhau Auschwitz – Birkenau (wedi’i nodi gan Ddiwrnod Cofio’r Holocost) 27 Ionawr 1945 27 Ionawr 2020 (75)
Diwrnod VE / diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop 8 Mai 1945 (Diwrnod VE) 8 Mai 2020 (75)
Diwrnod Hiroshima – caiff hwn ei nodi fel arfer gyda digwyddiad blynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.  Yn 2020 bydd yr Eisteddfod yn Nhregaron, Ceredigion – sef man geni’r Heddychwr Henry Richard, ac mae ei gerflun yn sgwâr y dref yn bererindod i lawer o ymgyrchwyr heddwch. 6 Awst 1945 6 Awst 2020 (75)
Diwedd yr Ail Ryfel Byd drwy’r byd (Diwrnod Japan) 15 Awst 1945

2 Medi yn Unol Daleithiau America

15 Awst 2020 (75)

Dyddiadau Arwyddocaol y Cenhedloedd Unedig

Datganiad Palas St James: y Siarter Rhyng-Gynghreiriol 12 Mehefin 1941 12 Mehefin 2021 (80)
Siarter yr Iwerydd ar gyfer Trefn y Byd, Heddwch, Cyfiawnder, Llafur, Nawdd Economaidd a Chymdeithasol 14 Awst 1941 14 Awst 2019 (78)

14 Awst 2021 (80)

Datganiad cyntaf y Cenhedloedd Unedig 1 Ionawr 1942 1 Ionawr 2020 (78)
Cynhadledd Dumbarton Oaks – Cytunwyd ar strwythur y Cenhedloedd Unedig

Cynhadledd Yalta – Cytunwyd ar Ddiogelwch y Cenhedloedd Unedig

7 Hydref 1944

7 Chwefror 1945

7 Hydref 2019 (75)

7 Chwefror 2020 (75)

Ffurfio’r Cenhedloedd Unedig yn San Francisco (a Diwrnod y Cenhedloedd Unedig bob blwyddyn) 24 Hydref 1945 24 Hydref 2020 (75)
Sesiwn gyntaf o Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Llundain (trefnwyd gan y Cymro Gladwyn Jebb ac fe’i hagorwyd gyda ‘pherfformiad heddwch’ gan Gôr Teml Heddwch Cymru) 10 Ionawr 1946 10 Ionawr 2021 (75)
Sefydlu Sefydliad Iechyd y Byd 7 Ebrill 1948 7 Ebrill 2020 (72)
USiarter y Cenhedloedd Unedig / Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, Paris 10 Rhagfyr 1948 10 Rhagfyr 2023 (75)
Diwrnod Heddwch y Byd

(DS Thema’r Cenhedloedd Unedig ar gyfer 2019 oedd Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd er mwyn heddwch)

21 Medi 1981 21 Medi 2021 (40)
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn – gweler hefyd Cronfa Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Plant (UNICEF) ac adnoddau Achub y Plant 20 Tachwedd 1989 (llofnodwyd)

2 Medi 1990 (gweithredwyd)

20 Tachwedd 2019 (30)

2 Medi 2020 (30)

Cymunedau a Chymdeithas Sifil Cymru – Dyddiadau Arwyddocaol ar ôl yr Ail Ryfel Byd ar gyfer Mudiadau Rhynglwadolaidd, Heddwch ac Iechyd

Agorwyd y Deml Heddwch (1938)

 

Agorwyd Gardd Heddwch Genedlaethol Cymru (1988)

23 Tachwedd 1938 23 Tachwedd 2019 = 81

23 Tachwedd 2020 = 82

ac ati

David Davies – i gofio’r diwrnod bu farw David Davies, sylfaenydd y Deml Heddwch (nodwyd gan Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a darlith yng Ngŵyl Gregynog) 16 Mehefin 1944 16 Mehefin 2019 (75)
Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru yn newid yn ffurfiol i UNA Cymru 1945 (i’w chadarnhau)
Ailagor y Deml Heddwch ar ôl yr Ail Ryfel Byd 1945 (i’w chadarnhau)
Etholiad Cyffredinol ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn ethol Clement Attlee / Llywodraeth Lafur, oedd â maniffesto i wneud diwygiadau cymdeithasol ysgubol, gan gynnwys creu’r Gwasanaeth Iechyd 5 Gorffennaf 1945 (Etholiad Cyffredinol)

26 Gorffennaf (canlyniadau’r Etholiad Cyffredinol)

26 Gorffennaf 2020 (75)
Awdurdod Trosiannol y Gwasanaeth Iechyd yn cael ei sefydlu yn y Deml Heddwch, i oruchwylio’r gwaith o greu’r Gwasanaeth Iechyd 1946 2021 (75)
Sefydlu Eisteddfod Gydwladol Llangollen Mehefin 1947 Mehefin 2019 (72)

Mehefin 2022 (75)

Gweddw David Davies, y Fonesig Henrietta Davies, yn dadorchuddio plac y Deml Heddwch ar ôl yr Ail Ryfel Byd i nodi derbyn Medal Aur am Bensaernïaeth yr Ymerodraeth yn 1939 gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain 1948 (i’w chadarnhau)
Sefydlu Gwasanaeth Iechyd Cymru a’r gwasanaeth iechyd yng ngwledydd Prydain 5 Gorffennaf 1948 5 Gorffennaf 2020 (72)
Cyfnewidfa heddwch y bobl gyntaf rhwng Cymru a’r Almaen, gyda chôr Lubeck yn dod i Langollen Gorffennaf 1949 Gorffennaf 2019 (70)
Neges Heddwch gyntaf Plant Llangollen 5 Gorffennaf 1952 5 Gorffennaf 2022 (70)
Cofeb Gwilym Davies – Gwilym Davies yn marw yn 1955, a throsglwyddo cyfrifoldeb dros Neges Heddwch ac Ewyllys Da o Undeb Cynghrair y Cenhedloedd i’r Urdd. 26 Ionawr 1955 26 Ionawr 2020 (65)
Sefydlu’r cyntaf o nifer o Gymdeithasau Gefeillio Trefi ar ôl yr Ail Ryfel Byd rhwng yr Almaen a Chymru, a sefydlwyd gyda Chyfnewidfa Mannheim Abertawe (sefydlwyd Coventry-Dresden yn 1946) 9 Awst 1957 9 Awst 2022 (65)