“An emotional roller coaster of an event,”
Dyna sut y disgrifiwyd y digwyddiad dramatig yn y Deml Heddwch ar 18 Mai, mewn partneriaeth â Josef Herman Arts Foundation. Roedd perfformiad Dragon Hearts and Dragon Souls, trwy gerddoriaeth a dawns, oedd yn darlunio erledigaeth rymus pobl ag anableddau dysgu o dan y gyfundrefn Natsïaidd, wedi dod â dagrau i lygaid llawer. Perfformiodd The Oasis Choir and Drummers, sy’n cynnwys perfformwyr o’r gymuned leol a cheiswyr lloches, ganeuon a oedd wedi cael eu hysgrifennu gan aelodau – rhai yn hiraethus, rhai i godi’r ysbryd. Cafwyd perfformiad gwych gan Oscar Castellino (gyda Gareth Llyr Simon) o gynhyrchiad o Dymor Rhyddid Opera Cenedlaethol Cymru, sydd i ddod. Mae WCIA yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â chwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn rhai o’r digwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r cynyrchiadau opera yn y Tymor Rhyddid, felly galwch draw.
Adroddodd ffoaduriaid o Iran, Syria, Congo a Camerŵn straeon emosiynol am golli hawliau dynol trwy erledigaeth oherwydd eu hiaith, safbwyntiau gwleidyddol neu oherwydd iddynt fentro siarad allan. Rhoddodd y bardd o Gaerdydd, Ali Goolyad, arddangosiad hyfryd o’r rheswm pam y gelwir Somalia yn wlad y beirdd, trwy berfformio rhywfaint o’i waith ei hun.
Cafodd y cyfranogwyr ginio blasus a noddwyd yn hael gan Unite. Cafodd pawb gyfle i feddwl am sut y gallant ymuno â’r ymgyrchu i ddiogelu hawliau dynol trwy gyfrwng prosiect Creu Newid rhyngweithiol dan arweiniad Jane Harries o WCIA.
Cafodd Josef Herman, artist a ffoadur Iddewig o wlad Pwyl, hyd i gartref ac ysbrydoliaeth yn Ystradgynlais. Dangoswyd ffilm gan blant ysgol lleol, yn darlunio ei stori emosiynol am golled ac am ddod o hyd i gartref newydd. Siaradodd ei fab, David Herman, yn bwerus am y pwysigrwydd o barhau i gefnogi hawliau dynol.
Canu cymunedol oedd y diweddglo cerddorol, dan arweiniad Frankie Armstrong, a sesiwn drymio torfol. “Roedd yn ddiwrnod bythgofiadwy. Fe wnaethom ddiweddu ar nodyn uchel o obaith, yn adlewyrchu neges allweddol un o ganeuon y ceiswyr lloches: ‘ Never Give Up ‘. “