Swyddi


Ffurflenni Cais

Dylai ymgeiswyr ar gyfer pob swydd lenwi ffurflen gais safonol WCIA a ffurflenni cyfle cyfartal isod, gyda llawer o ddiolch.


Ymddiriedolwyr WCIA 2025 – Trysorydd

A fedrwch chi ein helpu i adeiladu cenedl o ddinasyddion byd-eang sy’n dysgu, cydweithio a gweithredu dros heddwch cymdeithasol, a chyfiawnder hinsawdd? Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth ar fwrdd ymddiriedolwyr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru fel ein Trysorydd newydd.

Rydym yn chwilio am Trysorydd newydd i gyflwyno mewnwelediad ffres ac angerdd wrth i ni ddechrau’r bennod newydd gyffrous hon. Buasem wrth ein bodd petasech yn ymuno â’n cymuned fywiog a bod yn rhan o’n taith i greu newid cadarnhaol.

Rydym yn recriwtio ar gyfer y swydd Trysorydd ar ein Bwrdd Ymddiriedolwyr, gan y bydd ein Trysorydd presennol yn ymddiswyddo ddiwedd mis Mawrth 2026.

Rydym yn chwilio am ymddiriedolwr sydd â chefndir ym maes cyllid a/neu gyfrifeg, yn ddelfrydol, gyda phrofiad yn y sector elusennol, a fydd yn gweithio gyda’r Bwrdd Ymddiriedolwyr a’r Rheolwyr drwy gadw golwg ar gyllid y sefydliad, sicrhau hyfywedd ariannol, cynghori ac arwain ar ofynion ariannol ac arferion gorau, a darparu cyngor, cymorth a gwybodaeth i Ymddiriedolwyr ar eu cyfrifoldebau o ran gofalu am gyllid.

Y Rôl Gyffredinol

Monitro gweinyddiaeth ariannol yr elusen, a chyflwyno adroddiad i fwrdd yr ymddiriedolwyr yn rheolaidd ar ei statws iechyd ariannol, yn unol ag arfer gorau, a chydymffurfio â’r ddogfen lywodraethu a gofynion cyfreithiol, i roi hyder a gwybodaeth i’r bwrdd i wneud penderfyniadau strategol yn well.

Dyma’ch cyfle i ymuno â sefydliad sy’n feiddgar o ran gweithredu, gyda chalon dosturiol, ac sy’n ymrwymedig i alluogi pobl Cymru i lunio byd gwell. Byddwch yn rhan o’n taith i greu cymuned fyd-eang o obaith, cysylltiad a gweithredu.

Ymddiriedolwyr WCIA 2025

A fedrwch chi ein helpu i adeiladu cenedl o ddinasyddion byd-eang sy’n dysgu, cydweithio a gweithredu dros heddwch cymdeithasol, a chyfiawnder hinsawdd? Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth ar fwrdd ymddiriedolwyr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Fel ymddiriedolwr, byddwch yn cyflawni’r canlynol:

  • Rydym yn gofyn bod ymgeiswyr yn gallu ymrwymo tua 8 diwrnod gwaith y flwyddyn, a disgwylir iddynt fynychu o leiaf 3 allan o 4 cyfarfod bwrdd y flwyddyn (mae’r dyddiadau’n cael eu trefnu blwyddyn ymlaen llaw, a gellir gwneud trefniadau i ymuno o bell). Mae gennym hefyd ‘ddiwrnod cwrdd i ffwrdd’ blynyddol yr ydym yn gofyn i aelodau’r bwrdd ei fynychu, a bydd cyfleoedd i ymuno mewn gweithgareddau gyda staff a gwirfoddolwyr.
  • Arwain datblygiad, strategaeth, a phroses llywodraethu WCIA yn y dyfodol – a grymuso ein staff anhygoel i gyflawni eu heffaith tra’n sicrhau goruchwyliaeth gref o agweddau ariannol, diogelu a gweithredol.
  • Cysylltu’n rheolaidd gydag ymddiriedolwyr, staff, gwirfoddolwyr a rhanddeiliaid — ar-lein, mewn lleoliadau hybrid, ac mewn person yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd a lleoliadau eraill — i ysgogi cynnydd ac i gynnal ein gwerthoedd a’n hamcanion.

Mae ein hymddiriedolwyr presennol yn dod o gefndiroedd amrywiol, wedi’u huno gan yr un angerdd dros adeiladu planed mwy teg, heddychlon a mwy iach. Rydym yn chwilio am ymddiriedolwyr sydd yn meddu ar y rhinweddau canlynol:

  • Brwdfrydig ynghylch ein pwrpas, ac sy’n ymrwymedig i gysylltu pobl, adeiladu partneriaethau ac ysbrydoli gweithredu.
  • Chwilfrydig ac yn barod i ofyn cwestiynau, gan ddod â syniadau a phersbectifau newydd i’n gwaith.
  • Yn angerddol am ein meysydd ffocws: heddwch, treftadaeth, dysgu byd-eang, a chyfiawnder hinsawdd.
  • Meithrin cydweithredu a chefnogaeth ym mhob agwedd ar ein cenhadaeth mewn caredigrwydd ac undod.

Rydym yn annog yn arbennig, ceisiadau gan bobl ifanc, unigolion o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol fel y mwyafrif byd-eang, a chan ymgeiswyr anabl. Rydym yn croesawu unigolion sydd â sgiliau, profiadau a safbwyntiau amrywiol, ond mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan ymgeiswyr sydd â phrofiad ym maes cyllid, Adnoddau Dynol, codi arian neu gyfathrebu. Boed gydag arbenigedd penodol neu ddiddordeb cryf yn ein gwaith, gallwch helpu i lunio ein dyfodol.