Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yw’r brif elusen ryngwladol yng Nghymru sy’n cefnogi gwirfoddolwyr dramor. Mae gan yr elusen 47 mlynedd o brofiad, ac yr holl sgiliau a’r rhwydweithiau cymorth i roi’r hyder i chi gymryd eich camau cyntaf mewn taith a fydd yn para oes.
Bydd pob gwirfoddolwr sy’n mynd dramor naill ai ar brosiectau tymor canol, hirdymor neu wersyll gwaith yn derbyn Hyfforddiant Cyn Gadael pwrpasol cyn teithio dramor. Bydd yr Hyfforddiant Cyn Gadael yn rhoi’r cyfle i chi gwrdd â gwirfoddolwyr eraill o Gymru, a’ch paratoi chi ar gyfer eich cyfnewid rhyng-ddiwylliannol.
Ein dyddiad Hyfforddiant Cyn Gadael nesaf: 20 Ebrill 2022 yn y Deml Heddwch (digwyddiad hyfforddi drwy’r dydd).
Ar ôl i chi ddychwelyd, byddwch yn cael eich gwahodd i’n sesiwn rhoi adborth, i fyfyrio ar y sgiliau dinasyddiaeth fyd-eang rydych chi wedi eu dysgu. Rydym yn annog pob gwirfoddolwr a’r rheini sy’n ystyried cymryd rhan yn un o’n prosiectau i gymryd y prawf STEPS Byd-eang.
Cyfleoedd Newydd
25 Percent
(ar lien, 12/05/2022)
Beth fyddwch chi’n dysgu:Beth – gweithdy ar newid cymunedol ac eiriolaeth
I bwy – pobl ifanc 16-30 oed a hoffai ddysgu am newid cymdeithasol a rhannu eu syniadau am Ddyfodol Ewrop
More information here