“Health as the bridge to peace” One-day conference on Peace and Health

First panel of speakers discussing the relationship between peace, war and health

Ar 31 Mawrth, cynhaliwyd y gynhadledd undydd ar Heddwch ac Iechyd. Trefnwyd y gynhadledd gan Academi Heddwch mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth, Cymraeg a Llywodraeth Cymru.  Rhannwyd y digwyddiad yn saith cynhadledd gwahanol – pob un gydag arbenigwyr gwahanol yn dod o feysydd academaidd, llywodraethol a phreifat.

Nod y gynhadledd oedd mynd i’r afael â’r berthynas rhwng heddwch ac iechyd o sawl safbwynt. Agorwyd y sesiwn gyda grŵp o bedwar arbenigwr gwahanol ar heddwch ac iechyd yn trafod goblygiadau iechyd mewn cyd-destunau rhyfel a heddychlon.

Professor Colin McInnes speaking about the “politicisation of health”

“Mae iechyd mewn rhyfel wedi bod y naratif mwyaf amlwg ers talwm. […] mae costau iechyd yn uwch yn ystod rhyfeloedd yn hytrach na heddwch. Nid yn unig o ran yr anafiadau ond hefyd, o ran y difrod i seilwaith hanfodol, mynediad i nwyddau sylfaenol fel bwyd a dŵr, a chlefydau sy’n datblygu mewn gwersylloedd ymladd/rhyfel. Hefyd, nawr, mae’r defnydd o arfau biolegol yn fodd i ryfel. […] er bod pethau’n newid, gellid dweud bod iechyd yn bont i heddwch, gan ddylanwadu ar urddas pobl a datblygu cynaliadwy”

Colin McInnes
Presentation made by Dr Rhys Bevan Jones

Mae ail bwnc y gynhadledd yn canolbwyntio ar lanweithdra dŵr, ecosystemau glân a’u heffaith ar heddwch. Fe wnaeth y ddau banelydd, sy’n dod o gefndiroedd peirianneg a gwyddoniaeth yn y drefn honno, ddadansoddi a thynnu sylw’r cyhoedd at y cysylltiadau sydd ddim bob amser mor amlwg rhwng gwaith eu peirianwyr, a’r sgil-effeithiau sydd ganddynt ar iechyd, ac wedyn, “heddwch cadarnhaol”.

Dechreuodd sesiwn y prynhawn gyda’r drafodaeth ar sut y gall iechyd a heddwch gael goblygiadau gwahanol i gynlluniau mudol a menwfudwyr. Yn olaf, daeth y gynhadledd i ben gyda dau siaradwr, a ddadansoddodd a chael sgwrs ar bwnc y celfyddydau a heddwch, a’r effaith mae’r rhain yn ei chael ar ein hiechyd. Bydd fideo o’r sesiwn ar gael yn fuan, ar y cyd â chyflwyniadau a sleidiau’r panelwyr.

I weld y rhestr lawn o siaradwyr a’u cefndiroedd, lawrlwythwch y ddogfen sydd wedi’i hatodi isod.

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *