Mae UNESCO newydd ddiweddaru eu hargymhelliad 1974 ar Addysg dros Heddwch, Hawliau Dynol a Datblygu Cynaliadwy, gan osod addysg fel sbardun allweddol ar gyfer heddwch a dealltwriaeth ryngwladol.



Cynhaliwyd enghraifft dda o adeiladu byd mwy heddychlon a chynaliadwy trwy gyfrwng dull llawr gwlad i fyny yn y Deml Heddwch ac Iechyd yng Nghaerdydd ar 23– 25 Ionawr 2024. Cymerodd 19 o athrawon o 11 ysgol ar draws De Cymru (10 ysgol gynradd ac 1 uwchradd) ran mewn cwrs hyfforddi tri diwrnod, gan eu galluogi i weithredu cynlluniau Cyfryngu Cymheiriaid llwyddiannus (datrys gwrthdaro i bobl ifanc, gan bobl ifanc) yn eu cyd-destunau. Roedd yr hyfforddiant hwn yn ganlyniad cydweithio rhwng Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) a’r Crynwyr ym Mhrydain, a chafodd ei wneud yn bosibl trwy gyllid o gronfa etifeddiaeth a ddelir gan y Crynwyr yn Ne Cymru.
Dim ond dechrau prosiect blwyddyn o hyd oedd hwn, sy’n anelu at greu model cynaliadwy ar gyfer adeiladu heddwch. Yn dilyn yr hyfforddiant, mae staff bellach wedi ymrwymo i hyfforddi grŵp blwyddyn gyfan mewn sgiliau empathig a datrys gwrthdaro, yna i ddewis grŵp o gyfryngwyr cymheiriaid a fydd yn eu tro, yn cael eu hyfforddi a’u cefnogi’n rheolaidd i gyflawni eu rôl. Rhan arall o ymrwymiad yr ysgol yw hyfforddi eu holl staff, gan gynnwys goruchwylwyr amser cinio, fel bod dealltwriaeth a pharch tuag at rôl y cyfryngwyr cymheiriaid mewn cefnogi cyd-ddisgyblion i ddatrys gwrthdaro. Bydd ail ‘garfan’ o ysgolion yn cael eu hyfforddi yn yr haf er mwyn ehangu’r rhwydwaith, a bydd cynhadledd yn cael ei chynnal ym mis Ionawr 2025, lle bydd staff a disgyblion yn dod at ei gilydd i rannu canlyniadau cadarnhaol ac arfer da – ym mhresenoldeb gwleidyddion sydd â diddordeb gobeithio!
Cynnwys a Methodoleg yr Hyfforddiant:
Aeth yr hyfforddiant â chyfranogwyr drwy’r gweithgareddau y byddant yn eu cyflwyno gyda’u disgyblion mewn ffordd ryngweithiol a chyfranogol. Ar Ddiwrnod Un, fe wnaethom ganolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc i fynegi eu hunain ac ymateb i eraill mewn ffordd ddi-drais, gan gynnwys sut i fynegi eu teimladau a’u hanghenion, sut i wahaniaethu rhwng iaith sy’n beio ac iaith sydd ddim yn beio, sut i wrando’n effeithiol a sut i leddfu gwrthdaro. Aeth Diwrnodau Dau a Tri â chyfranogwyr drwy’r broses cyfryngu cymheiriaid a sgiliau a materion cysylltiedig, fel pwysigrwydd a chyfyngiadau cyfrinachedd, didueddrwydd, a defnyddio cwestiynau agored a chaeedig. Treuliwyd amser hefyd yn trafod beth y gall ac na all disgyblion ei gyfryngu, pryd y gallai fod angen iddynt wrando, a threuliwyd amser yn trafod pethau ymarferol, fel pryd a ble bydd y sesiynau cyfryngu yn cael eu cynnal, a pha gymorth fydd ei angen ar y cyfryngwyr.
Yn bwysig, cyflwynwyd yr hyfforddiant mewn ffordd oedd yn anelu at fodelu’r cynnwys. Cafodd ei gynnal mewn cylch, gyda gemau a gweithgareddau difyr a chwarae rôl, gweithio mewn parau a grwpiau, ac amser ar gyfer myfyrio’n unigol. Cafodd hyn yn arbennig ei werthfawrogi gan gyfranogwyr. Pan ofynnwyd iddynt beth y gwnaethant ei werthfawrogi fwyaf am yr hyfforddiant, soniodd un cyfranogwr: ‘Darparu’r hyfforddiant trwy gyfrwng gweithgareddau, fel ei bod yn glir sut y gallai gwersi / hyfforddiant edrych yn fy ysgol. Fe wnes i fwynhau’r dull hyfforddiant yn fawr, a pha mor addysgiadol oedd yr hyfforddiant.’ Roedd cyfranogwr arall yn gwerthfawrogi ‘cael amser i chwarae rôl ac … i drafod yn fanwl.” Ac wrth gwrs, roedd pawb wrth eu bodd gyda’r adnoddau am ddim!
Y Cyd-destun Ehangach:
Rydym yn ffodus yng Nghymru bod y math hwn o hyfforddiant yn cyd-fynd yn dda â’r cwricwlwm. Fe wnaethom ymdrech ymwybodol hefyd yn ystod yr hyfforddiant, i dynnu sylw at sut mae cyfryngu cymheiriaid yn cyd-fynd â chyd-destun ehangach heddwch ac addysg ar heddwch, drwy gynnig gweithgareddau opsiynol yn ystod amser cinio. Ar y diwrnod cyntaf, fe wnaethom gynnig taith fer o amgylch y Deml Heddwch ac Iechyd, ar ddiwrnod dau, fe wnaethom roi gwybodaeth iddynt am Gynllun Ysgolion Heddwch WCIA ac ar y diwrnod olaf, fe wnaethant glywed mwy am addysg heddwch yn gyffredinol, ac am yr amrywiaeth o adnoddau sydd ar gael i ysgolion.
Egwyddorion Sylfaenol:
Yn atodol at ddarparu cyrsiau fel hyn, mae gweledigaeth ehangach o’r wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau sydd eu hangen ar bobl ifanc os ydym yn mynd i greu dyfodol heddychlon a chynaliadwy i ddynoliaeth. Yn bwysicaf oll efallai, mae angen i bobl ifanc ddatblygu’r hyder a’r sgiliau i ddatrys problemau eu hunain, yn hytrach na disgwyl i ryw ffigwr mewn awdurdod ddatrys pethau ar eu cyfer.
Mae’n teimlo fel ein bod ni ar ddechrau taith gyffrous, ac rydym yn edrych ymlaen at allu rhannu canlyniadau cadarnhaol ymhen blwyddyn. Gobeithio y bydd mentrau fel hyn yn cyfrannu rhywfaint at ddatblygu’r egwyddorion hanfodol a’r deilliannau dysgu – fel empathi, meddwl yn feirniadol, dealltwriaeth ryngddiwylliannol a stiwardiaeth amgylcheddol – sydd yn cael eu pwysleisio yn Argymhelliad diwygiedig UNESCO.
https://twitter.com/PeaceEduQuaker/status/1753044264378863981/video/1