Y dadleuwyr gorau yn brwydro i gyrraedd y brig ym Mhencampwriaethau Dadlau Ysgolion Cymru 2019

Bydd disgyblion o bob cwr o Gymru yn cystadlu mewn rowndiau unigol a thîm i gael eu coroni yn enillwyr Pencampwriaethau Dadlau Ysgolion Cymru 2019.

Ar ddydd Llun 16 Rhagfyr, bydd pedwar tîm o Ysgol Tryfan yn Bangor,  Ysgol Gyfun Bro Morgannwg yn Y Barri, Ysgol Gadeiriol Caerdydd a Coleg chweched dosbarth Caerdydd, ac unigolion sef Amelia, Cameron, Daniel ac Alice, yn ymgynnull yn Nhŷ Tredegar ar gyfer y rowndiau cynderfynol a therfynol.

Bydd y pynciau trafod cyffrous ar y diwrnod yn cynnwys protest, tegwch, democratiaeth a chyfiawnder.

Dyma’r deunawfed tro a’r flwyddyn olaf i’r Bencampwriaeth Dadlau Ysgolion Cymru gael ei chynnal, ac mae hyd at 60 ysgol wedi cystadlu bob blwyddyn. Enillwyr pencampwriaeth y tîmau llynedd oedd Ysgol Howell, ac ennillydd y wobr am y Siaradwr Unigol oedd Arianne Banks o Ysgol Stanwell.

Dywedodd Sue Clements, Athrawes Dosbarth Chweched Gaerdydd: “Mae ein myfyrwyr wedi bod yn gwneud y gystadleuaeth ers 12 mlynedd, gan ei bod yn cefnogi sgiliau meddwl a siarad sydd yn ei dro yn gwella cyfleoedd bywyd, gan ganiatáu myfyrwyr i gael llefydd mewn prifysgolion a swyddi gwell.

“Yr hyn sy’n wych am y gystadleuaeth Gymraeg yw ei bod yn magu hyder ac yn galluogi myfyrwyr i ymgysylltu ag ystod o bynciau heriol sy’n berthnasol i’r byd sydd ohoni.”

Hoffai dîm WCIA ddiolch i Dŷ Dredegar am gynnal y digwyddiad ac i Sefydliad Hodge am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd.

 

Dywedodd Lydia Griffiths, Swyddog Profiad Ymwelwyr yn Nhŷ Tredegar: “Rydym wrth ein bodd i fod yn cynnal rownd derfynol y gystadleuaeth yma yn Nhŷ Tredegar. Cynhelir y digwyddiad ar gefndir ein harddangosfa Cyfoeth a Gwrthryfel y gwnaethom lansio ym mis Medi. Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer yr arddangosfa hon wrth i ni gofio 180 mlynedd ers Gwrthryfel Casnewydd, a welodd brotestwyr o fudiad y Siartwyr yn gorymdeithio at Westy Westgate yng nghanol dinas Casnewydd.

“Wedi eu hysbrydoli gan y Siarter Chwe Phwynt buont yn brwydro am lais a phleidlais, ac fe gollodd 22 o’r protestwyr eu bywydau yn brwydro dros yr hyn roeddynt yn credu ynddo. Rydym yn gobeithio caiff y cystadleuwyr sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eu hysbrydoli gan hanes ac etifeddiaeth y Siartwyr ac rydym yn dymuno’n dda iddynt yn eu trafodaethau a’u hareithiau.”

 

 

Edrychwch ar ein POSTER ac darllenwch mwy am y cystadleuath YMA

 

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *