Gan adlewyrchu ein gwreiddiau a rennir yn y Deml Heddwch, mae Cyfnewid UNA a WCIA yn uno o ddiwedd mis Ionawr 2020. Sefydlwyd y ddau ochr yn ochr â’i gilydd ym 1973 – i nodi 25 mlynedd ers sefydlu’r Cenhedloedd Unedig a 35 mlynedd ers agor y Deml – mae WCIA a Cyfnewid UNA wedi mwynhau perthynas waith agos erioed, maent yn rhannu treftadaeth gref, ac ymrwymiad ar y cyd i adeiladu heddwch rhyngwladol, gyda ffocws penodol ar ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol, o bob cenhedlaeth.
Heddiw mae WCIA yn ysbrydoli pobl ar draws Cymru i ddysgu am a gweithredu ar faterion byd-eang. Rydym am i bawb yng Nghymru gyfrannu at greu byd tecach a heddychlon. Gallwch ddysgu mwy am ein gweithgareddau, cefnogi Dysgu Byd-eang, Gweithredu Byd-eang a Phartneriaethau Byd-eang, yn: www.wcia.org.uk.
[efsbutton size=”” color_class=”” align=”left” type=”link” target=”false” title=”CAEL EICH DWEUD – AROLWG” link=”https://www.surveymonkey.co.uk/r/MLPQHT6″]
Pam fod y ddau Sefydliad yn Uno?
Wrth inni agosáu at ein ‘hanner canrif’ a rennir yn 2023, mae heriau a chyfleoedd y byd o’n cwmpas wedi newid yn sylweddol dros y degawd diwethaf. Mae’r amgylchedd ariannu i elusennau ar ôl y cyfnod o galedi, ynghyd ag ansicrwydd mwy diweddar ynghylch Brexit, yn golygu bod yn rhaid i ni feddwl a gweithio’n wahanol i sicrhau bod cyfleoedd gwirfoddoli rhyngwladol ar gael i genedlaethau’r dyfodol.
Credwn y gallwn gyflawni mwy gyda’n gilydd, trwy gyfuno adnoddau ac egni. Mae cyfleoedd i wneud cysylltiadau rhwng cyfleoedd gwirfoddoli Cyfnewid UNA sy’n newid bywydau, a gwaith WCIA, er enghraifft mewn ysgolion, yn eirioli polisi ar gyfer y cwricwlwm newydd, cefnogi datblygiad rhyngwladol, cysylltu Nodau Llesiant Cymru a Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, a llunio Strategaeth Ryngwladol newydd Cymru. Mae mwy o le i archwilio a rhannu hanes Cyfnewid UNA i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wirfoddolwyr, gan adeiladu ar lwyddiannau rhaglen Cymru dros Heddwch WCIA; cyfrannu tuag at ein prosiect ‘UN75’ sy’n datblygu; ac integreiddio stori Cyfnewid UNA i mewn i Deithiau o’r Deml ac arddangosfeydd, gyda ffocws penodol ar wella mynediad y cyhoedd i’r Ardd Heddwch a’r defnydd ohoni.
Fel sefydliad a ariennir i raddau helaeth o ffynonellau Ewropeaidd, mae Brexit (yn dibynnu ar ei ffurf) yn creu amgylchedd ariannu hynod heriol. Er nad yw’n hawdd i unrhyw elusen, mae gan WCIA sylfaen ehangach o ffynonellau cyllid, gyda mwy o wytnwch i newidiadau yn nhirwedd Ewrop; ac mae cyfleoedd i groes-ariannu rhwng prosiectau – er enghraifft grantiau treftadaeth, a allai gefnogi gwirfoddoli gan bobl ifanc. Mae yna heriau wrth gwrs i gyllid WCIA yn y dyfodol hefyd, a allai effeithio ar raddfa’r hyn y gallwn ei wneud; ond mae WCIA yn hyderus y byddwn yn gallu parhau â’r gwaith craidd o wirfoddoli rhyngwladol ymhell i’r dyfodol, ac y bydd endid wedi uno yn diogelu gwaith Cyfnewid UNA yn y dyfodol.
Y Broses o Uno
Ffurf yr uno yw y bydd Cyfnewid UNA yn ‘cau i lawr’ fel elusen annibynnol, sy’n cael ei wneud gan ymddiriedolwyr cyfredol Cyfnewid UNA. Bydd y staff yn trosglwyddo drosodd i WCIA pan fydd cyfreithlondeb yr uno wedi’i gwblhau; ac mae WCIA eisoes yn cymryd cyfrifoldeb am brosiectau a rhaglenni Cyfnewid UNA. Bydd dau o ymddiriedolwyr cyfredol Cyfnewid UNA yn ymuno â Bwrdd WCIA yn y flwyddyn ariannol newydd, er mwyn sicrhau bod llais clir ymhlith ymddiriedolwyr WCIA ar gyfer gwaith parhaus Cyfnewid UNA, ac ar gyfer gwirfoddoli rhyngwladol fel rhaglen gyfartal ochr yn ochr â meysydd gwaith eraill WCIA.
Ni fydd hyn yn torri ar draws unrhyw un o brosiectau cyfredol Cyfnewid UNA ac, yn y tymor byr, bydd pethau’n parhau fel y maent i raddau helaeth – er enghraifft, ni fydd cyfeiriadau e-bost, y wefan na’r rhif ffôn yn newid. O hyn tan ddiwedd y flwyddyn ariannol hon (Mawrth 31 2020), byddwn yn gweithio gyda staff, gwirfoddolwyr, cyn-aelodau a phartneriaid i wneud y trosglwyddiad mor esmwyth â phosibl, tra hefyd yn casglu syniadau ar gyfer y dyfodol.
Nodyn ynghylch Diogelu Data a Phreifatrwydd
Os oedd Cyfnewid UNA yn dal unrhyw ddata personol amdanoch, mae’r data hwnnw wedi’i drosglwyddo i WCIA – ond, dim ond mewn ffyrdd rydych chi eisoes wedi cytuno iddynt y byddwn ni’n defnyddio’r data, er enghraifft, i gyfathrebu am brosiectau Cyfnewid UNA. Gallwch ddarllen ein Polisi Preifatrwydd yn: https://www.wcia.org.uk/cy/wcia-polisi-preifatrwydd/
Llunio’r Dyfodol
Wrth i’r cyfnod trosglwyddo hwn fynd rhagddo, hoffem siarad â chi – y bobl sydd wedi bod yn rhan o waith Cyfnewid UNA dros y blynyddoedd – am eich gobeithion ar gyfer y dyfodol, syniadau ymarferol ynglŷn â sut yr hoffech chi gymryd rhan, a’ch barn am y blaenoriaethau. Bydd ein hadolygiad yn archwilio’r canlynol:
- Cyd-destun gwirfoddoli rhyngwladol yn 2020 – heriau a chyfleoedd.
- Stori a Gwerthoedd Cyfnewid UNA – beth sy’n ei wneud yn unigryw?
- Ein treftadaeth a rennir, gan gynnwys bwydo i mewn i brosiect ‘100 mlynedd o wersylloedd gweithio gwirfoddol’ y Gwasanaeth Gwirfoddol Ewropeaidd (EVS) – os oes gennych atgofion o wersylloedd gweithio gwirfoddol, byddem wrth ein bodd yn eu clywed – cyn mis Mawrth!
- Rhanddeiliaid a gwirfoddolwyr Cyfnewid UNA, ddoe a heddiw: gyda phwy rydym ni wedi colli cysylltiad, pwy efallai fyddai’n hoffi ‘rhoi yn ôl’ a/neu gymryd rhan yn y dyfodol?
- Cyllid Prosiect a Dulliau Gwirfoddoli y gorffennol, y presennol a’r dyfodol – lle yw’r lle gorau i ni ganolbwyntio ein hegni ar gyfer cynaliadwyedd?
- Cyfathrebu â Chefnogwyr yn y Dyfodol – pwy yw ein gwahanol gynulleidfaoedd, a beth maen nhw eisiau ei dderbyn/ glywed amdano?
- Sut ydym ni’n gwneud y Daith Wirfoddoli mor gefnogol, cyfoethog a chyffrous â phosibl?
- Sut ydym ni’n cynnig cyfle i wirfoddolwyr sydd yn dychwelyd i ddod yn ‘llysgenhadon rhyngwladol’ – gan eu cynnwys gyda chymunedau yng Nghymru, y DU a ledled y byd, i barhau i adeiladu byd gwell?
[efsbutton size=”” color_class=”” align=”left” type=”link” target=”false” title=”CAEL EICH DWEUD – AROLWG” link=”https://www.surveymonkey.co.uk/r/MLPQHT6″]
Bydd Craig Owen, sydd wedi bod yn arwain y prosiect Cymru dros Heddwch dros y 5 mlynedd diwethaf, mewn cysylltiad â chysylltiadau Cyfnewid UNA allweddol o ddiwedd mis Ionawr, a byddai’n croesawu mewnbwn yr holl gefnogwyr os oes gennych syniadau i’w rannu – cysylltwch â craigowen@wcia.org.uk.
Ymunwch â’n Dathliad o Wirfoddoli Rhyngwladol
O Ebrill 2020, byddwn yn dechrau gwneud (a chyfathrebu) newidiadau yn seiliedig ar yr adborth rydym wedi’i gasglu, a’r sefyllfa ariannu. Ar ddydd Mawrth 21 Ebrill 2020, byddwn yn cynnal digwyddiad yn y Senedd yn arddangos gwaith a chyflawniadau Gwirfoddolwyr Rhyngwladol Cymru dros y blynyddoedd; i ddod â phobl ynghyd, dathlu’r hyn y mae Cyfnewid UNA a WCIA wedi’i wneud, ac archwilio’r camau nesaf. Hoffem estyn gwahoddiad cynnes i chi ymuno â ni – ‘cadwch y dyddiad’! – a byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth yn nes at yr amser. Byddwn hefyd yn anfon diweddariadau electronig i’r rhai ohonoch sydd ddim yn gallu bod yn bresennol, ac yn rhannu manylion ar y cyfyngau cymdeithasol.
Ceisiwn ein gorau i gadw mewn cysylltiadau trwy gydol y broses, ond rhowch wybod i ni os oes yna fwy y gallwn ei wneud. Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych, a gobeithio eich cynnwys chi wrth lunio pennod newydd o weithio ar y cyd i hyrwyddo gwirfoddoli rhyngwladol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.