Yr wythnos hon, bydd dros 11,000 llais o Gymru yn cael eu rhannu yn y COP26 yn gofyn am weithrediad brys ag iddo sylfaen o dystiolaeth ar yr argyfyngau hinsawdd a natur.
Cyn y COP, ar 19 Hydref, cyflwynwyd y lleisiau i Weinidog Cymru a’r Dirprwy Weinidog dros Newid Amgylcheddol ac Aelodau’r Senedd ynghyd â cherflun symbolaidd o galon iâ.
Cyn y COP, ar 19 Hydref, cyflwynwyd y lleisiau i Weinidog Cymru a’r Dirprwy Weinidog dros Newid Amgylcheddol ac Aelodau’r Senedd ynghyd â cherflun symbolaidd o galon iâ. Mae’r galon iâ yn brydferth ond dros dro fel ag y mae ein ffenestr o gyfle i weithredu.
Roedd y 10,000+ neges yn amrywiol ond yr oedd nifer ohonynt yn cynnwys yr angen clir am gyfiawnder hinsoddol:
Mae gennym gyfrifoldeb i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol i hinsawdd-weithredu ar frys. Mae’r rheiny sydd wedi cyfrannu leiaf tuag at newid hinsoddol yn teimlo’i ddylanwadau waethaf.
Ond y mae gobaith – mae pobl a chymunedau Cymru a ledled y byd eisoes yn gweithredu’n arloesol ar yr hinsawdd – dengys ein taith werdd ddiweddar o Gymru bod pobl yn cydweithio ac eisoes yn gwneud tra wahaniaeth.
Gallwn gael byd gwell – gydag ynni dan feddiant y gymuned, bwyd wedi ei gynhyrchu’n lleol, cydweithio rhwng cymdogion a chenhedloedd, lleoedd agored naturiol wedi eu hadfywio…Ond rydym angen i lywodraethau wneud mwy a hynny ar frys, dileu rhwystrau a pheidio ôl-gamu ar ymrwymiadau Sero Net.
Susie Ventris-Field, Prif Weithredwr WCIA
Mae’r neges gan bobl Cymru yn glir.
Annwyl fyd-arweinyddion,
Mae amser yn brin.
Rydym yn gwylio
Peidiwch â’n siomi.
WCIA is a proud partner of the Climate Cymru campaign and hosts the campaign as a member of Stop Climate Chaos Cymru.