Cynhadledd Ysgolion Heddwch 2022

Fe wnaeth tua 150 o ddisgyblion o 30 ysgol fynychu Cynhadledd Ysgolion Heddwch Cymru ar 10 Tachwedd 2022.

Yn ystod y Gynhadledd, clywodd cyfranogwyr gan ysgolion sydd wedi datblygu agweddau ar ddinasyddiaeth fyd-eang fel rhan o’u hymrwymiad yn y Cynllun Ysgolion Heddwch. Dywedodd un cyfranogwr: “Mwynheais y cyflwyniad rhyngweithiol o Gyfarthfa ac rwyf eisiau diolch i Miss Richards a’i myfyrwyr am sesiwn mor ysgogol.”

Roedd dysgwyr a staff a fynychodd y gynhadledd yn cymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol, ac fe wnaethant ddysgu am brosiectau ac adnoddau y gallant eu defnyddio yn eu lleoliadau eu hunain. Ymrwymodd ysgolion yn y gynhadledd i lawer o weithredoedd, fel adeiladu cornel heddwch yn eu hysgol, cynnal gwasanaethau heddwch a chreu amgylchedd mwy croesawgar yn yr ysgol.

Rhoddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, y brif araith yn y gynhadledd, a dywedodd: “Rwy’n cael fy ysbrydoli cymaint gan lwyddiant y Cynllun Ysgolion Heddwch a’i ddull cyfannol. Mae’n rhoi gwerth ar lais y dysgwr a mwy o bwyslais ar ddatblygu sgiliau ar gyfer ein pobl ifanc.” 

Mae’r Cynllun Ysgolion Heddwch yn helpu ysgolion i integreiddio datblygu dinasyddiaeth foesegol, wybodus i’r cwricwlwm a bywyd ysgol mewn ffordd ystyrlon. Mae dysgwyr yn symud ymlaen o ran eu dealltwriaeth a’u sgiliau dros amser, ac yn rhoi dysgu ar waith.  

Сделано на Padlet

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *