Sut fyddai Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang yn edrych?

Dweud eich dweud: Sut allwn ni lunio cenedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang wrth i ni adfer ar ôl COVID19?

Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), wedi’i ariannu gan ein partneriaid Oxfam Cymru, yn trefnu cyfres o drafodaethau arbenigol eleni.

Bydd y gyfres yn gyfleoedd i drafod, dadlau a chytuno ar argymhellion i Lywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus a phobl yng Nghymru wneud cynnydd tuag at ddod yn Gymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang.

Yn ein trafodaeth gyntaf, gofynnwyd beth yw’r hyn y mae gwrth-hiliol yn ei wneud, gan ysgogi trafodaeth ddiddorol gyda’r rhai a oedd yn bresennol a’n partner trafod, Panel Cynhgori Is-Sahara.

Rydym yn awyddus i glywed o unrhyw un sydd ag arbenigedd ac yn awyddus i rannu meddyliau/profiadau gyda ni ar y pynciau canlynol:

  • Hawliau dynol, cydraddoldeb a chyfrifoldeb byd-eang: 21ain o Fedi am 2 – 4yp
  • Pŵer meddal sy’n gyfrifol yn fyd-eang : 25ain o Fedi am 2 – 4yp
  • Heddwch, cyfiawnder a chyfrifoldeb byd-eang: 8fed o Hydref am 2- 4 yp
  • Cymru yn yr economi gyflenwi fyd-eang: cadwyni cyflenwi, masnach a chyfnewidiadau : I’w gadarnhau (rhyw bryd ym mis Hydref)

Cysylltwch â ni ar Trydar neu Facebook, neu drwy ebost i lizziewalker@wcia.org.uk os hoffech chi neu rywun o’ch sefydliad neu rwydwaith ymuno ag unrhyw un o’r rhain a byddwn ni yn cysylltu ynghylch dyddiadau.

Byddwn yn cynnal digwyddiad agored hwyrach yn y flwyddyn, i rannu a thrafod argymhellion o’r holl drafodaethau, wedi’i ddilyn gan ddigwyddiad polisi a lansiad yng Ngwanwyn 2021.

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *