Daeth Dr Jones i Gaerdydd ym 1964 i ddarlithio mewn cemeg yn Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST).
Yn fuan iawn, dechreuodd ymwneud â gweithgareddau Cyngor Cenedlaethol Cymru Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig (UNA), a daeth yn aelod o’i Bwyllgor Gweithredol Cenedlaethol cyn helpu i sefydlu cangen newydd yn ardal y Rhymni yng Nghaerdydd.
Pan sefydlwyd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd ym 1973, chwaraeodd Dr Jones ran lawn, a dal prif swyddi: Cadeirydd ei Ymddiriedolaeth (1975-81), Trysorydd (1989-91), ac yn olaf, Llywydd (1991-95).
Nid oes amheuaeth fod Dr Jones hefyd yn ddyn y werin. Cymerodd ddiddordeb cynnar yn natblygiad y Gwasanaeth Ieuenctid Rhyngwladol (IYS) a welodd, o ddechrau digon diymhongar ym 1964, dros 300 o wirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn 33 gwlad erbyn 1994.
Roedd ei ddiddordebau dyngarol wedi sicrhau ei fod yn gefnogwr arweiniol o Gronfa Plant y Cenhedloedd Unedig (UNICEF), ac WCIA oedd yr asiantaeth swyddogol yng Nghymru ar ei gyfer rhwng 1974-96. Bu’n cymryd rhan yn Ras Awyr gyntaf y Byd ar gyfer awyrennau bach ym 1992 a chododd £20,000 ar gyfer prosiectau UNICEF ym Mangladesh a Mali.
Roedd Dr Jones hefyd yn Ymddiriedolwr Ymgyrch Rhyddid Rhag Newyn (FFHC) y Deyrnas Unedig a oedd wedi’i leoli yn WCIA (1978-97), ac a ddosbarthodd dros £1 miliwn i 57 prosiect datblygu mewn gwahanol rannau o’r byd.
Ar ôl dychwelyd i ogledd Cymru yn ystod y nawdegau, dechreuodd Dr Jones ymwneud â datblygiadau yn ei fro enedigol yn Ynys Môn, yn ogystal â ffurfio cangen UNA ym Mangor.
Yr oedd cyfraniadau Dr Jones yn fwy anhygoel byth o ystyried ei fod hefyd yn ymwneud yn llawn â datblygu ei ddiddordebau proffesiynol ei hun. Sefydlodd Lion Laboratories ym 1967, a’i gyflawniad gwyddonol eithriadol oedd dyfeisio’r anadlennydd electronig, sy’n mesur lefel alcohol gyrwyr ar ochr y ffordd. Defnyddiwyd ei ddyfais gan heddlu drwy’r byd i gyd.
Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Dr Jones. Bydd colled fawr ar ei ôl.
W R Davies
Cyfarwyddwr WCIA, 1973-1997